Cyfeirio'r Post Brenhinol at y rheoleiddiwr Ofcom

Mae pwyllgor o ASau Llywodraeth y DU wedi cyfeirio'r Post Brenhinol at y rheoleiddiwr Ofcom wedi iddynt dorri gofyniad i ddosbarthu llythyrau ar hyd y wlad chwe diwrnod yr wythnos.
Dywedodd y Pwyllgor Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol fod y "cwmni wedi methu â chyflawni" y gofyniad.
Ychwanegodd y pwyllgor nad oedd prif weithredwr y Post Brenhinol, Simon Thompson, yn "hollol gywir" yn ei atebion i ASau ar ddefnydd technoleg er mwyn tracio a disgyblu gweithwyr.
Ychwanegodd ASau nad oeddent yn "credu fod camgymeriadau mor eang wedi gallu digwydd heb gymeradwyaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol y rheolwyr."
Fe wnaeth ASau hefyd annog bwrdd y Post Brenhinol i adolygu rheolaeth y cwmni ar sail "esgeulustod" os nad oeddent yn gwybod unrhyw beth am yr arferion.
Fe wnaeth y pwyllgor alw ar Ofcom i agor ymchwiliad i'r ffordd y mae'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) yn cael ei gweithredu yn y cwmni yn ogystal â'r ffordd y mae'r cwmni yn cysylltu gyda'u gweithwyr.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Darren Jones, ei fod yn ei chael hi'n "anodd credu bod y fath achosion o dorri polisïau'r cwmni a gofynion cyfreithiol yn sgil rhwydwaith cenedlaethol o weithwyr yn cynllwynio yn erbyn rheolwyr y Post Brenhinol.
"Fe gawsom ni ein llethu gan dystiolaeth gan weithwyr post yn herio cywirdeb atebion y prif weithredwr Simon Thompson.
"Dydy hi ddim yn dderbyniol i roi'r bai ar y pandemig fel y ffactor blaenllaw am fethiannau'r Post Brenhinol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol fod y cwmni yn "falch o allu cynnig y gwasanaeth cyffredinol, ac mae ein polisïau yn glir y dylai parseli a llythyrau gael eu trin gyda'r un pwysigrwydd.
"Fe wnaeth y Post Brenhinol ateb y cwestiynau gan y pwyllgor yn fanwl - wyneb yn wyneb ac mewn gohebiaeth - am berfformiad, cyllid a gwasanaeth y cwmni.
"Rydym yn gwrthod yr awgrymiad fod y Post Brenhinol wedi camarwain y pwyllgor yn y broses honno."