Bysiau trydan newydd yn cael eu defnyddio rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

Mae bysiau trydan newydd wedi eu cyflwyno i wasanaeth T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau ar 26 Mawrth gyda’r bysiau trydan yn cael eu lleoli mewn depo gwefru newydd yn Nant-y-Ci yng Nghaerfyrddin.
Bydd disgwyl i daith ar fws trydan o Gaerfyrddin i Aberystwyth arbed 14804g o CO2 o’i gymharu â defnyddio’r car ar gyfer yr un daith.
Fe fydd y bysiau trydan yn cael eu darparu gan gwmni Pelican.
Yn ôl pennaeth Pelican, Ian Downie, bydd un cerbyd gyfystyr â 14 o geir ar gyfer pump o bobl.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff, a Gwasanaethau Isadeiledd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwy’n croesawu cyflwyno’r fflyd hon o fysiau trydan newydd sbon a fydd yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus fodern carbon isel hanfodol i bobl Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i gyflawni’r prosiect hwn, a oedd yn cynnwys caffael y fflyd bysiau a dylunio ac adeiladu’r depo gwefru newydd yn Nant y Ci, Caerfyrddin,” meddai.
Ychwangegodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: “Mae bysiau yn chwarae rhan hanfodol yn cadw ein cymunedau yn gysylltiedig ac yn cynnig dewis trafnidiaeth cynaliadwy i bobl yn hytrach na'r car.
“Bydd cyflwyno bysiau trydan newydd sbon yn rhoi hwb mawr i wasanaeth TrawsCymru ac mae’n gam pwysig arall ymlaen i gyflawni ein huchelgais ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amlfodd, integredig a charbon isel o ansawdd uchel ledled Cymru.”