Rhybudd melyn am law i’r rhan helaeth o Gymru

Mae rhybudd melyn am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru ddydd Iau.
Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd y glaw trymaf ar dir uchel, gyda hyd at 100mm yn syrthio mewn rhai mannau.
Mae'r rhybudd yn golygu bod llifogydd yn debygol a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau ceir gael eu heffeithio gan gyflwr y ffyrdd.
"Bydd y glaw yn cyd-fynd ag amodau gwyntog a gallai llwch dŵr ei gwneud hi'n anodd gweld," meddai'r Swyddfa Dywydd.
Daeth y rhybudd i rym am 00:00 fore Iau ac mae'n parhau tan 15:00.
Mae 14 o siroedd wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Wrecsam