Newyddion S4C

Angladd Brianna Ghey

Cynnal angladd Brianna Ghey yn Warrington

NS4C 15/03/2023

Mae angladd Brianna Ghey yn cael ei gynnal yn Warrington ddydd Mercher. 

Bu farw Brianna, oedd yn 16 oed, ar ôl cael ei thrywanu yn farw mewn parc yn y dref yn Sir Gaer ym mis Chwefror. 

Fe wnaeth marwolaeth Brianna, oedd yn ferch drawsryweddol, sbarduno ymateb cryf ymysg y gymuned LHDTC+. 

Cafodd gwylnosau eu cynnal mewn dinasoedd ar draws y DU, gan gynnwys Caerdydd, Llundain a Glasgow. 

Mewn datganiad cyn yr angladd, gofynnodd teulu Brianna i unrhyw un oedd am fynychu'r angladd i wisgo dillad pinc. 

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Brianna yn dilyn ei marwolaeth bod ei cholled wedi gadael "twll enfawr'. 

"Roedd hi'n gymeriad mawr a oedd yn gwneud argraff ar bawb oedd yn ei chwrdd.

"Roedd Brianna yn hardd, ffraeth a doniol. Roedd Brianna yn gryf, di-ofn ac yn unigryw.

"Mae colled ei bywyd ifanc wedi gadael twll enfawr yn ein teulu ac rydym yn gwybod bod y ffrindiau ac athrawon oedd yn ei bywyd yn teimlo'r un fath."

Cafodd dau unigolyn yn eu harddegau eu harestio a'u cyhuddo o lofruddio Brianna yn dilyn ei marwolaeth. 

Mae'r ddau ohonynt - bachgen 15 oed o Leigh a merch 15 oed o Warrington - yn y ddalfa tan eu hachos llys ym mis Gorffennaf. 

Hyd yma, nid yw'r heddlu wedi cadarnhau os oedd llofruddiaeth Brianna yn drosedd casineb. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.