Cefnogaeth biliau ynni i barhau am dri mis ychwanegol

Rai oriau cyn iddo gyflwyno ei gyllideb, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd y gefnogaeth ar gyfer biliau ynni yn parhau am dri mis ychwanegol.
Bydd y cap biliau ynni, sydd yn rhewi bil ar gyfartaledd i ddim mwy na £2,500, yn cael ei ymestyn ar gyfer mis Ebrill, Mai a Mehefin. Mae hynny yn werth £160 ar gyfer pob aelwyd ar gyfartaledd.
Roedd disgwyl i filiau ynni gynyddu ar gyfartaledd o £2,500 i £3,000 y flwyddyn o fis Ebrill ymlaen.
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o Gyllideb y Canghellor Jeremy Hunt ddydd Mercher a fydd yn ceisio lleddfu effaith costau cynyddol a cheisio haneru chwyddiant.
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'r estyniad o dri mis yn golygu na fydd aelwydydd yn teimlo effaith llawn cap biliau Ofgem rhwng Ebrill a Mehefin eleni, sydd ar hyn o bryd yn £3,280.
Dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt fod "biliau ynni uchel yn un o'r pryderon mwyaf ar gyfer teuluoedd, a dyna pam yr ydym ni'n parhau gyda'r cap biliau ynni fel ag y mae.
"Gyda disgwyl i filiau ynni leihau o fis Gorffennaf ymlaen, bydd y newid hwn yn pontio'r gwahaniaeth ac yn lleddfu'r pwysau ar deuluoedd, yn ogystal â helpu i ostwng chwyddiant."