Newyddion S4C

Shirley Lyons

£19,000 i ddynes a gafodd ei phlagio yn rhywiol mewn parti Nadolig

NS4C 15/03/2023

Mae dynes a gafodd ei phlagio yn rhywiol mewn parti Nadolig wedi derbyn £18,857 mewn tribiwnlys diwydiannol.

Roedd Shirley Lyons yn gweithio fel cynllunydd ac ymgynghorydd gwerthu gyda chwmni Starplan yn Portadown, Gogledd Iwerddon o Fehefin 2013 tan Ebrill 2018.

Daeth y tribiwnlys i'r casgliad fod sail i gwyn Ms Lyons iddi golli ei gwaith yn annheg.

Cafodd Shirley Lyons gefnogaeth y Comisiwn Cydraddoldeb yn ystod yr achos.

Clywodd y tribiwnlys fod Ms Lyons wedi mwynhau perthynas dda gyda'i chyd-weithwyr.  

Hi oedd yr unig ddynes i fynd i barti Nadolig y cwmni ar 16 Rhagfyr 2017, ac roedd chwe gweithiwr gwrywaidd yn bresennol hefyd. 

Yn ôl Ms Lyons, pan symudodd y criw o'r parti i fwyty yn ddiweddarach, daeth yn destun sylwadau rhywiol nad oedd yn eu gwerthfawrogi. 

Clywodd y tribiwnlys fod un o'i chyd-weithwyr wedi gwneud sylwadau am fronnau Ms Lyons gan ei chofleidio heb ei chaniatâd.

Awgrymodd hefyd " y gallai'r ddau o bosib gael affêr " a chlywodd y gwrandawiad iddo gyffwrdd ei phen ôl yn y bwyty. 

Roedd y tribiwnlys yn “fodlon bod y materion hynny yn cyfateb i ymddygiad corfforol a llafar o natur rywiol."  

Clywodd yr achos fod Ms Lyons wedi dweud wrth ei rheolwr llinell ar 20 Rhagfyr 2017 iddi gael ei phlagio yn rhywiol gan gyd-weithiwr gwrywaidd 

Wythnos yn ddiweddarach, fe gyflwynodd gwyn ffurfiol.  

Yn ôl Ms Lyons, cafodd ei thrin yn anymunol gan dri chyd-weithiwr wedi iddi gyflwyno'r gwyn honno. 

Ymddiswyddodd Ms Lyons o'r cwmni yn Ebrill 2018.

Cafodd yr achos ei glywed yn 2018, ond yn dilyn apel gan Ms Lyons, cafodd gorchymyn i beidio â'i henwi ei godi yn Ionawr 2023.

Dywedodd Shirley Lyons : “Rydw i'n falch fod yr achos nawr ar ben, gan ei fod wedi rhoi pwysau anferthol arna i a fy nheulu. Rydw i mor ddiolchgar am bob cefnogaeth. 

“Rydw i hefyd yn falch fod y tribiwnlys wedi cytuno i godi'r gorchymyn i gadw fy enw yn gyfrinachol. Mae'n bwysig fod gen i ryddid i siarad am yr hyn ddigwyddodd y noson honno a'r digwyddiadau ar ôl hynny hefyd. "

“Mae'r hyn a ddigwyddodd yn ddiweddarach yn waethv- doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel yn fy ngwaith mwyach, ac roeddwn i'n teimlo'n sâl yn mynd i'r gwaith yn y boreau."

Dywedodd Geraldine McGahey, prif gomisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb : “Mae partïon gwaith yn medru bod yn elfen bwysig o gofnodi llwyddiannau, ac adeiladu perthynas dda.   

“Ond, mae angen i gyflogwyr sicrhau fod pawb sy'n mynd i ddigwyddiadau o'r fath yn ddiogel a bod eu hurddas yn cael ei barchu. Ac os nad yw hynny'n digwydd, a bod gan staff achos i gwyno, mae angen iddyn nhw gael eu gwarchod yn y gweithle rhag unrhyw ymateb anymunol." 

Llun: PA 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.