Newyddion S4C

Llys Apêl

Meddyg o Gymru yn apelio yn erbyn gwaharddiad ar ôl sefydlu clinig ar-lein i bobl drawsryweddol

NS4C 14/03/2023

Mae meddyg teulu o Sir Fynwy wedi dechrau ei hachos yn y Llys Apêl ar ôl iddi gael ei gwahardd rhag darparu gwasanaeth meddygol am ddeufis gan dribiwnlys. 

Daeth y tribiwnlys i'r casgliad ym Mehefin 2022 fod Dr Heather Webberley, o'r Fenni, wedi camymddwyn yn ddifrifol.

Wrth lansio ei hapêl yn ystod gwrandawiad yn Llundain ddydd Mawrth, dywedodd cyfreithwyr ar ran Dr Webberley fod y panel wedi gwneud "camgymeriadau" a bod eu canfyddiadau yn "anghywir." 

Dywedodd y bargyfreithiwr yn cynrychioli'r Cyngor Meddygaeth Cyffredinol (GMC) y dylai apêl Dr Webberley gael ei gwrthod a bod yna "sail cadarn" dros y gwaharddiad. 

Daw gwaharddiad Dr Webberley wedi iddi sefydlu gwasanaeth ar-lein er mwyn cynnig triniaeth i gleifion trawsryweddol o'r enw GenderGP.

Dywedodd bargyfreithiwr y cyngor meddygol, Peter Mand, fod Dr Webberley yn wynebu honiadau o gamymddygiad mewn cysylltiad â "thriniaeth tri phlentyn trawsryweddol ac amrywiaeth o faterion eraill".

Clywodd y llys bod Dr Webberley wedi'i gwahardd o faes meddygaeth am ddeufis wedi iddi gynnig triniaeth i un person trawsryweddol, sy'n cael ei adnabod fel 'Claf C.'

Roedd Claf C yn ei arddegau ac yn uniaethu fel gwryw wedi iddo gael ei eni yn fenyw. 

Dywedodd Mr Mand wrth y barnwr fod Dr Webberley wedi'i gwahardd ar ôl methu â thrafod risgiau'r driniaeth cyn rhoi cyffuriau i Glaf C.

"Daeth y tribiwnlys i'r casgliad bod angen gwahardd Dr Webberley er lles y cyhoedd oherwydd nad oedd ganddi ddealltwriaeth o'i methiannau," meddai.

Clywodd y llys fod Dr Webberley yn bwriadu herio "pob rhan" o benderfyniad y tribiwnlys, gan gynnwys ei gasgliadau a'r penderfyniad i'w gwahardd. 

Mae disgwyl i'r gwrandawiad ddod i ben yn ddiweddarach ddydd Mawrth. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.