Miliynau mewn cronfeydd ymddiriedolaeth plant ‘mewn perygl o gael eu hanghofio'

Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn cronfeydd ymddiriedolaeth plant, neu child trust funds, heb eu hawlio eto, yn ôl y swyddfa Archwilio.
Nod y cynllun cynilo yw helpu pobl ifanc yn ariannol pan fyddant yn oedolion.
Mae'r Swyddfa Archwilio yn rhybuddio bod cyfrifon mewn perygl o gael eu hanghofio neu eu colli gan y rhai sy’n berchen arnyn nhw.
Yn ôl y swyddfa, yr amcangyfrif ydy fod mwy na chwarter y cyfrifon heb eu cyffwrdd am flwyddyn neu fwy ar ôl i'w perchnogion droi'n 18 oed.
Mae'r gronfa yn cyfrif cynilo di-dreth hirdymor ar gyfer plant a gafodd eu geni rhwng Medi 1 2002 ac Ionawr 2 2011, ac mae modd iddyn nhw gael mynediad iddo pan fyddant yn 18 oed.
Talodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pryd fwy na £2 biliwn i mewn i'r gronfa ar gyfer 6.3 miliwn o blant yng ngwledydd Prydain.
Derbyniodd y rhan fwyaf o blant £250 gan y Llywodraeth wrth i'r cyfrif agor, tra cafodd rhai teuluoedd ar incwm isel neu mewn gofal awdurdod lleol £250 yn ychwanegol.
Mae ansicrwydd ynglŷn â faint o blant ac oedolion ifanc sydd yn gwybod dim am fodolaeth eu cyfrifon neu’n methu â dod o hyd iddynt, yn ôl y Swyddfa Archwilio.
Dywedodd Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio : “Ar adeg o galedi economaidd i filiynau o bobl ledled y wlad, mae’n bwysig bod y llywodraeth yn gwneud digon i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol, ac yn gallu cael mynediad at eu cronfeydd ymddiriedolaeth plant. ”