Newyddion S4C

Gwasanaethau brys yn ymateb i ddifrod sylweddol i eiddo yn Nhreforys wedi adroddiadau o 'ffrwydrad'

Gwasanaethau brys yn ymateb i ddifrod sylweddol i eiddo yn Nhreforys wedi adroddiadau o 'ffrwydrad'

NS4C 13/03/2023

Mae difrod sylweddol i eiddo yng nghanol stryd o dai yn Nhreforys ger Abertawe, gyda'r gwasanaethau brys wedi eu galw yno.

Yn ôl adroddiadau yn lleol, cafodd ffrwydrad uchel ei glywed tua 11.20, a chafodd ei glywed filltiroedd i ffwrdd.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae'r digwyddiad rhwng Field Close a Ffordd Clydach, ac mae'n nhw'n apelio ar bobol i osgoi'r ardal, er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni eu gwaith.  

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir a Dinas Abertawe, Rob Stewart, "ffrwydrad nwy" sy'n cael ei amau o achosi'r difrod. 

"Dy'n ni ddim yn gwybod eto a oes unrhyw anafiadau neu unrhywun yn gaeth yn y rwbel. Ac mae fy meddyliau gyda thrigolion yr ardal," meddai.   

Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân Y Canolbarth a'r Gorllewin iddyn nhw gael eu galw tua 11.20.

"Cafodd criwiau o Dreforys, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Gorseinon a Phort Talbot eu galw, yn sgil sawl adroddiad am ffrwydrad nwy. 

"Yn ogystal â'r Gwasanaeth Tân, mae Heddlu De Cymru, a'r Gwasanaeth Ambiwlans ar y safle,"  meddai eu datganiad.  

Mae dau ambiwlans awyr wedi glanio yn yr ardal.

Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Sioned Williams, yr Aelod o'r Senedd ar ran Plaid Cymru, sy'n cynrychioli Gorllewin De Cymru: "Does dim newyddion eto am anafiadau na marwolaethau.

"Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy yma," meddai. 

Yn ôl adroddiadau yn lleol, mae'r difrod yn eang, gyda ffenestri wedi torri mewn cartrefi gerllaw, a cherbydau wedi eu difrodi ar y stryd. 

Mae Clwb Rygbi Treforys wedi cynnig cymorth.

Dywedodd y clwb ar Facebook: "Os oes unrhyw beth i ni'n gallu gwneud i helpu, rhowch wybod i ni. Rydym yn gallu cynnig lle twym a diogel i unrhyw yn sydd ei angen."

Prif Lun: Adam Thomas 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.