Protestwyr yn gosod plac yng Nghaerdydd er mwyn tynnu sylw at ollwng carthffosiaeth i’r dŵr
Mae protestwyr yng Nghaerdydd wedi gosod plac glas mewn parc yno er mwyn tynnu sylw at y “carthffosiaeth yn y dŵr”.
Mae’r plac yn tynnu sylw at y ffaith bod Dŵr Cymru wedi “arllwys dŵr brwnt o dai 14,787 o oriau yn 2021”.
Dywedodd Dŵr Cymru wrth Newyddion S4C nad oedd yn fforddiadwy peidio â gadael i ddŵr gwastraff fynd i afonydd yn ystod stormydd.
Serch hynny roedden nhw yn bwriadu buddsoddi £100m ychwanegol yn 2025 er mwyn gwella cyflwr afonydd Cymru.
Yn y brotest tua 13.00 GMT ddydd Sadwrn roedd protestwyr o Wrthryfel Difodiant wedi ymuno gyda thrigolion y gymuned leol er mwyn dadorchuddio’r plac glas ym Mharc Hailey.
Dywedodd Ian Vincent o’r mudiad fod "Dŵr Cymru yn fwriadol wedi gadael i garthion amrwd fynd i mewn i'n hafonydd a'n moroedd hyfryd am filoedd o oriau bob mis".
Dywedodd llefarydd arall ar ran Gwrthryfel Difodiant Caerdydd, Pip Beattie: "Rydym wedi gwylio mewn arswyd wrth i'n hafonydd a'n moroedd ni ddod yn garthffosydd agored ers mis Hydref 2021, pan wnaeth y llywodraeth fethu a chefnogi cynnig a fyddai wedi atal cwmnïau dŵr rhag pwmpio gwastraff yn uniongyrchol i'n hafonydd.
"Mae'r placiau hyn yn amlygu methiant y llywodraeth i amddiffyn ein dyfrffyrdd, y byd naturiol a ni i gyd."
‘Gwaith’
Dywedodd Dŵr Cymru nad oedd gorsaf bwmpio newydd ym Mharc Hailey yn gysylltiedig â gollwng unrhyw ddŵr brwnt i’r afon.
“Mae’n rhaid i ni adeiladu gorsaf bwmpio newydd yn y parc er mwyn pwmpio carthffosiaeth o ddatblygiad newydd Plasdwr i’n gwaith trin dŵr yn Nhremorfa,” medden nhw.
“Ni fydd unrhyw garthion – wedi eu trin neu fel arall – yn cael eu gollwng i’r Taf ym Mharc Hailey o ganlyniad i’r gwaith yma.”
Mae methiant y llywodraeth i daclo'r broblem o lygredd carthion wedi bod yn ddadleuol iawn.
Yr haf diwethaf, roedd cannoedd o draethau wedi eu cau i'r cyhoedd wedi cyfres o ollyngiadau carthion gan gwmnïau dŵr a wnaeth adael tywod a môr wedi eu halogi gan garthion dynol.