Y Canghellor yn addo y bydd ei Gyllideb yn annog rhagor o bobol yn ôl i’r gwaith
Mae’r Canghellor wedi addo y bydd ei Gyllideb ddydd Mercher yn annog rhagor o bobol yn ôl i’r gwaith.
Dywedodd Jeremy Hunt fod “annibyniaeth yn well na dibyniaeth” ac y dylai’r rheini “sydd yn gallu gweithio, weithio”.
Bydd y gyllideb yn targedu pobl dros 50, rhai sydd wedi bod yn sâl am gyfnod hir, a’r rheini sy’n hawlio budd-daliadau.
Mae nifer y bobl sydd mewn cyflogaeth yn parhau yn is na chyn y pandemig.
“I lawer iawn o bobol mae yna rwystrau yn eu hatal nhw rhag dychwelyd i’r gwaith – diffyg sgiliau, anabledd neu gyflwr iechyd,” meddai Jeremy Hunt.
“Neu maen nhw allan o’r gweithlu ers amser hir.
“Rydyn ni eisiau i’r Gyllideb ‘nôl i’r gwaith’ yma gael gwared â’r rhwystrau sy’n wynebu pobol a dod o hyd i’r swyddi iawn iddyn nhw.”
Dywedodd y byddai llenwi bylchau yn y farchnad swyddi yn help i ddod â chwyddiant i lawr hefyd.
‘Anaddas’
Ymysg y newidiadau fydd newid yn y system asesu budd-daliadau ar gyfer pobol sydd ag anableddau.
Bydd y newid yn caniatáu iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith heb golli eu budd-daliadau.
Ond mae un elusen wedi rhybuddio yn barod fod yna beryg fod “pobol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gorfodi yn ôl i’r gwaith”.
Dywedodd cyfarwyddwr strategaeth Scope, James Taylor, bod angen “system sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n cynnig cefnogaeth wedi ei theilwra i’w hanghenion”.
“Dylai pobol sydd eisiau gweithio gael eu cefnogi. Ond i rai dyw hynny ddim yn opsiwn a ddylai pobl ddim cael eu gorfodi i gymryd gwaith anaddas.”