Dim ond llywodraeth Lafur all achub y Deyrnas Unedig meddai Mark Drakeford
Bydd Prif Weinidog Cymru yn dweud mai dim ond llywodraeth Lafur all achub y Deyrnas Unedig mewn araith yng nghynhadledd ei blaid heddiw.
Bydd Mark Drakeford yn dweud fod yr undeb mewn “peryg fel erioed o’r blaen wedi 13 mlynedd o lywodraethau Ceidwadol”.
Fe fydd yn ychwanegu y bydd y Blaid Lafur yn arbed y Deyrnas Unedig ar sail undod, hunanlywodraeth a rhannu grym.
“Ry’n ni wedi cael 13 mlynedd o blaid sydd yn hoffi rhannu'r wlad, gan gosbi’r mwyaf bregus, ac ymosod ar sefydliadau sydd wedi ein tynnu ni ynghyd,” meddai.
“Ein haelioni, ein gallu i fod yn agored a’n gallu i fod yn rym er gwell yn y byd.”
‘Canoli grym’
Fe fydd yn dweud fod angen parhau i ddatganoli grym o San Steffan dan lywodraeth Lafur.
Nid drwy “amddiffyn y status quo” fydd diogelu'r Deyrnas Unedig, meddai.
“Drwy ganoli grym mewn modd nerfus a cheisio gosod dymuniad Whitehall fel y mae’r llywodraeth yma wedi gwneud tro ar ôl tro.
“Yn hytrach rhaid adeiladu partneriaeth newydd cyfartal yn seiliedig ar barch.
“Mae’n fater o gael yr hyder i ailddosbarthu grym a chyfloed mewn modd radical - i bob cymuned, bob cenedl, a bob rhan o’r wlad.”
Mae Newyddion S4C wedi holi y Ceidwadwyr Cymreig am ymateb.