Newyddion S4C

Cyfrifiadur

7% o oedolion Cymru heb ddefnyddio'r rhyngrwyd eu hunain am dri mis

NS4C 10/03/2023

Dydy 7% o oedolion yng Nghymru ddim wedi defnyddio'r rhyngrwyd yn annibynnol yn ystod y tri mis diwethaf, yn ôl adroddiad newydd. 

Fel rhan o adolygiad o argaeledd gwasanaethau digidol, mae Archwilio Cymru yn dweud fod yna rai pobl yng Nghymru yn cael eu "heithrio'n ddigidol." 

Yn ôl yr adroddiad, mae'r nifer o gartrefi yng Nghymru sydd â mynediad at y rhyngrwyd wedi cynyddu'n gyson ers 2012, ond mae yna bryderon fod rhai pobl yn cael eu gadael tu ôl. 

Ychwanegodd Archwilio Cymru bod y llywodraeth wedi buddsoddi mewn sawl cynllun i wella cynhwysiant digidol, ond mae hefyd angen ystyried beth sydd wrth wraidd y broblem er mwyn ei datrys. 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn gwella seilwaith band eang ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor ddibynnol yw nifer ohonom bellach ar fynediad o ansawdd da at y rhyngrwyd,” medden nhw.

"Fodd bynnag, mae angen taro cydbwysedd rhwng gwariant ar seilwaith ar y naill law a gwaith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol allgau digidol ar y llaw arall.

“Bydd hyn yn rheoli’r risg o greu cymdeithas ac iddi ddwy haen lle mae mynediad at wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau eraill yn y cwestiwn.

"Rydym wedi cyhoeddi dogfen cwestiynau allweddol ochr yn ochr â’r adroddiad hwn i helpu cyrff cyhoeddus i fyfyrio ynghylch ei hymagwedd at gynhwysiant digidol."

‘Diffyg mynediad’

Mae Archwilio Cymru wedi nodi bod nifer o’r bobl sydd wedi eu heithrio yn ddigidol yn bobl fregus.

Roedd 14% yn breswylwyr tai cyngor a 12% yn bobl gydag anafiadau hirdymor sy’n cyfyngu arnyn nhw.

Dywed yr adroddiad fod yna sawl rheswm pam mae rhai pobl yn methu cael mynediad at wasanaethau digidol. 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Diffyg mynediad at adnoddau, fel problemau cost neu sgiliau digidol
  • Diffyg hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol
  • Pryderon ynghylch diogelwch personol ar-lein
  • Diddordeb mewn defnyddio gwasanaethau wyneb yn wyneb yn lle ar y rhyngrwyd.

Yn sgil y canfyddiadau yma, fe wnaeth Archwilio Cymru annog cyrff cyhoeddus i ystyried pobl sydd yn ei gweld hi'n anodd defnyddio'r rhyngrwyd wrth symud eu gwasanaethau ar lein. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.