Y DU i ariannu canolfan i fudwyr yn Ffrainc yn dilyn cytundeb newydd

Fe fydd Llywodraeth y DU yn ariannu canolfan i fudwyr yn Ffrainc fel rhan o gytundeb newydd i geisio atal pobl rhag croesi'r Sianel yn anghyfreithlon.
Fe wnaeth y Prif Weinidog, Rishi Sunak, gyhoeddi ddydd Gwener y bydd y DU yn darparu bron i £500m i Ffrainc fel rhan o ymdrechion i rwystro pobl rhag croesi'r Sianel mewn cychod bach.
Daw hyn yn sgil trafodaethau rhwng Mr Sunak ac arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ym Mharis.
Dyma oedd y cyfarfod cyntaf rhwng arweinwyr y DU a Ffrainc ers pum mlynedd, wedi i densiynau godi rhwng y ddwy wlad yn ystod cyfnodau Boris Johnson a Liz Truss fel prif weinidogion.
Yn dilyn y trafodaethau, fe wnaeth Mr Sunak gyhoeddi y bydd y DU yn ariannu'r ganolfan mudwyr newydd yn ogystal â channoedd o swyddogion newydd ar arfordir Ffrainc.
Er hyn, mae'n ymddangos nad yw'r gwledydd wedi dod i gytundeb fyddai'n galluogi'r DU i anfon unrhyw un sydd yn croesi'r Sianel mewn cwch bach yn syth nôl i Ffrainc.
Cyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd Rhif 10 Downing Street fod y llywodraeth yn ceisio llunio cytundeb gyda Ffrainc er mwyn alltudio unrhyw un sydd yn croesi'r Sianel yn anghyfreithlon.
Daw hyn wedi i Mr Sunak gyhoeddi ei Ddeddf Mewnfudo Anghyfreithlon newydd ar ddechrau'r wythnos, gan ddenu beirniadaeth chwyrn gan rai.
O dan y ddeddfwriaeth newydd, fe fydd pobl sydd yn cyrraedd y DU yn anghyfreithlon yn cael eu halltudio ar unwaith a'u gwahardd rhag dychwelyd.
'Bellach nag erioed'
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi buddsoddi arian sylweddol yn Ffrainc er mwyn atal pobl rhag croesi'r Sianel, gan anfon mwy na £300m dros y ddegawd ddiwethaf.
Fe wnaeth Mr Sunak gytuno i wario £63m er mwyn cynyddu'r nifer o swyddogion ar batrôl ar arfordir Ffrainc bedwar mis yn ôl. Cafodd cytundeb arall gwerth £55m ei lunio yn 2021.
Er hyn mae'r nifer o bobl sydd yn croesi'r Sianel wedi cynyddu. Ers dechrau'r flwyddyn mae dros 3,000 o bobl wedi gwneud y daith ac yn 2022 fe wnaeth mwy na 46,000 o bobl gyrraedd y DU ar gychod bach.
Mae'r cytundeb newydd yn nodi'r tro cyntaf i'r DU gytuno i adeiladu canolfan i fudwyr newydd yn Ffrainc er mwyn rhwystro rhagor o bobl rhag croesi.
Wrth gyhoeddi'r cytundeb newydd, dywedodd Rishi Sunak ei fod yn mynd yn "bellach nag erioed" er mwyn taclo'r broblem.
"Nid oes angen i ni reoli'r broblem, mae rhaid i ni ei thorri," meddai.
"Heddiw rydym wedi mynd yn bellach nag erioed er mwyn dod â'r fasnach afiach yma o fywydau dynol i ben.
"Gan weithio gyda'n gilydd, fe fydd y DU a Ffrainc yn sicrhau na fydd unrhyw un yn ecsploetio ein systemau heb gosb."