Rhagflas o gemau nos Wener yn y JD Cymru Premier

Mae diwedd y tymor yn agosau yn y JD Cymru Premier gyda'r gynghrair bellach wedi ei hollti’n ddwy.
Fe fydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.
Chwech Uchaf
Met Caerdydd (4ydd) v Y Drenewydd (6ed) | Nos Wener – 19:45
Er colli eu dwy gêm ddiwethaf mae Met Caerdydd yn dal mewn safle cryf i gystadlu am le yn Ewrop eleni, ac mae hynny’n bennaf oherwydd eu record arbennig gartref yng Nghampws Cyncoed.
Dyw’r myfyrwyr ond wedi colli dwy o’u 24 gêm gartref ddiwethaf, ac mae’r tîm o’r brifddinas eisoes wedi curo’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala a’r Drenewydd yng Nghyncoed y tymor yma.
Dyw’r Robiniaid erioed wedi ennill oddi cartref yng Nghampws Cyncoed, ac mae Met Caerdydd ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd (ennill 4, cyfartal 3), yn cynnwys tair buddugoliaeth y tymor hwn.
Ond fe gafodd Y Drenewydd ddathlu triphwynt allweddol yn eu gêm ddiwethaf gan drechu’r Bala o 3-2 i gadw eu gobeithion o gyrraedd y tri uchaf yn fyw.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf y Robiniaid yn 2023, a pe bae’r Drenewydd yn ennill eto nos Wener fe allai clwb Chris Hughes ddechrau breuddwydio am gyrraedd Ewrop.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌✅✅✅
Y Drenewydd: ✅❌➖❌➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (5ed) | Nos Wener – Wedi ei ohirio
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.