Newyddion S4C

Chris Gunter

Chris Gunter yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

NS4C 09/03/2023

Mae Chris Gunter wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol, yn 33 oed.

Chwaraeodd ei gêm olaf yn ystod ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022.

Daw'r cyhoeddiad ychydig wythnosau yn unig cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch ragbrofol nesaf ar gyfer Ewro 2024.

Mae'r chwaraewr canol cae wedi chwarae 109 o gemau dros Gymru.

Cyhoeddodd ei ymddeoliad ar y cyfryngau cymdeithasol fore dydd Iau.

Dywedodd: "Dwi wedi cael y fraint o gynrychioli ein gwlad anhygoel am 15 mlynedd, ac mae wedi rhoi rhai o’r amseroedd gorau yn fy ngyrfa a fy mywyd.

"Ers yn blentyn ifanc yn tyfu fyny yng Nghymru, y freuddwyd oedd chwarae dros fy ngwlad a gwisgo’r crys coch, ond nes i ddim hyd yn oed dychmygu’r atgofion a’r profiadau dwi a fy nheulu wedi eu cael.

"Ac mae hyn wedi bod yn bosib diolch i chi, y cefnogwyr. Dwi wedi trio deud wrthych chi sawl gwaith faint yda chi wedi fy helpu, ond mae’n anodd cael y geiriau i egluro yn iawn. Felly am y tro, dwi am ddiolch yn fawr iawn a welai chi’n fuan.

"Rydym ni mewn lle grêt gyda ein staff a’r garfan, ac mae gennym ni lawer i edrych ymlaen ato."

O'r Cae Ras i Gwpan y Byd

Roedd gyrfa ryngwladol Gunter wedi cychwyn yn erbyn Seland Newydd ar y Cae Ras yn Wrecsam yn 2007.

2-2 oedd sgôr y gêm honno ac ers hynny Gunter oedd y dewis cyntaf i chwarae ar y dde yn safle'r amddiffynnwr i Gymru.

Fe oedd yr unig chwaraewr i chwarae pob gêm yn ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2010 ac erbyn 2013 roedd wedi ennill 50 o gapiau dros ei wlad.

Methodd Cymru â chyrraedd Cwpan y Byd 2014, ond fe gyrhaeddodd Gunter a'r garfan Ewro 2016.

Chwaraeodd Gunter pob munud o gemau Cymru wrth iddynt gyrraedd y rownd cyn-derfynol yn Ffrainc. 

Image
Chris Gunter
Chris Gunter gydag aelodau'r Wal Goch yn Qatar.

Fe wnaeth groesi'r bêl i Sam Vokes i benio trydedd gôl Cymru yn erbyn Gwlad Belg i selio lle Cymru yn y pedwar olaf, er i hyfforddwr Cymru Chris Coleman floeddio arno i beidio gwneud.

Yn 27 oed enillodd Gunter cap rhif 75, a deg cap yn ddiweddarach roedd yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn Panama.

Curodd nifer capiau Neville Southall yn erbyn Albania yn 2018, gan ei wneud y chwaraewr gyda'r nifer fwyaf o gapiau i'r tîm dynion ar y pryd.

Fe ddaeth cap rhif 100 yn erbyn Mecsico, cyn iddo gael ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2020.

Er nad oedd wedi chwarae yng Nghwpan y Byd 2022, mae wedi bod yn ganolog i Gymru wrth iddynt godi o waelodion rhestr detholion FIFA i gyrraedd rownd cyn-derfynol yr Ewros.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.