Newyddion S4C

Cristopher Samuel

Dyn wed'i garcharu am ddwyn, ymosod, a bygwth â chyllell yn Aberaeron

NS4C 08/03/2023

Mae dyn yn ei arddegau wedi cael ei garcharu am ddwyn, ymosod ar ddau berson, a bygwth un â chyllell, ar lwybr glan afon Aberaeron.

Cafodd Christopher Samuel, 19 o Lanrhystud, ei garcharu am saith mlynedd mewn cysylltiad â'r ddau ddigwyddiad gwahanol yn y dref y llynedd. 

Fe wnaeth yr heddlu arestio Samuel, a oedd yn 18 oed ar y pryd, ynghyd a dau berson arall - Dylan Tapp, 18, a bachgen 17 oed  - yn dilyn adroddiadau o ddau ladrad gwahanol ym mis Gorffennaf a mis Medi. 

Dywedodd un dioddefwr bod tri dyn wedi'i bwnio, ei gicio a'i daflu yn yr afon. Yn ôl dioddefwr arall, cafodd ef a'i dad eu bygwth gyda chyllell. 

Yn dilyn ymchwiliadau, cafodd Samuel, Mr Tapp a'r bachgen 17 oed eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r lladradau. 

Fe wnaeth Samuel bledio'n euog i gyhuddiadau o ladrad, ymosod gan achosi niwed corfforol, affräe a meddu ar gyllell yn gyhoeddus, gan dderbyn dedfryd o saith mlynedd yn y carchar. 

Cafwyd Mr Tapp yn ddieuog o gyhuddiadau o ladrad, meddiannu cyllell yn gyhoeddus a bygwth tystion yn ystod achos llys wythnos ddiwethaf. 

Fe wnaeth y bachgen 17 oed bledio'n euog i ymosodiad gan achos niwed corfforol, affräe, meddu ar arf a meddu ar ganabis. Cafodd ei ddedfrydu'r llynedd i bedwar mis o garchar a derbyniodd orchymyn hyfforddi.

'Bygythiol'

Wedi i Samuel bledio'n euog, dywedodd y Ditectif Arolygydd Adam Cann o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd y rhain yn ddigwyddiadau arbennig o gas a gynhaliwyd yng ngolau ddydd mewn man cyhoeddus ac, yn ddealladwy, fe achosodd hyn bryder yn yr ardal.

“Nid oedd Samuel wedi bod allan o’r carchar ers amser hir am ymosodiad a oedd yn ymwneud â chyllell cyn cyflawni’r troseddau hyn yn Aberaeron.

"Mae’r ffaith ei fod wedi parhau i droseddu’n dangos fod ganddo gymeriad ofnadwy, ac rydym ni'n gobeithio fod y ddedfryd hon yn profi iddo ef – ac eraill sy’n mynnu cario arfau – na fyddwn ni'n dioddef ymddygiad bygythiol a threisgar.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.