Newyddion S4C

Olivia Pratt-Korbel

Olivia Pratt-Korbel wedi ei lladd 'gan ddyn oedd yn aros i saethu ei darged'

NS4C 07/03/2023

Ar ddiwrnod cyntaf achos llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel yn Llys y Goron Manceinion, clywodd y llys fod y ferch naw oed wedi ei lladd gan ddyn oedd yn 'aros' i saethu ei darged, sef dyn arall. 

Cafodd 10 dyn a dwy ddynes eu dewis ddydd Llun i wasanaethu ar y rheithgor yn Llys y Goron Manceinion yn achos Thomas Cashman, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Olivia.

Mae'r erlyniad yn honni mai Cashman, 34 oed, oedd yn gyfrifol am saethu'r gwn i gyfeiriad Olivia yn ei chartref yn Dovecot, ychydig wedi 22:00 ar 22 Awst y llynedd.

Wrth agor yr erlyniad ddydd Mawrth, dywedodd David McLachlan CB, fod "hyn yn ymwneud â phenderfyniad didostur Thomas Chashman i saethu Joseph Nee ar bob cyfrif heb unrhyw ystyriaeth o unrhyw un arall yn y gymuned. 

"Fe wnaeth gweithredoedd Thomas Cashman arwain at Joseph Nee yn cael ei anafu, Cheryl Korbel yn cael ei hanafu, a beth sydd fwyaf trasig am hyn i gyd ydy fod Olivia Pratt-Korbell wedi cael ei llofruddio."

Ychwanegodd Mr McLachlan fod Cashman wedi bod yn "aros" am Joseph Nee, a oedd yn gwylio gêm bêl-droed yng nghartref dyn arall. 

Clywodd y llys fod Mr Nee wedi gadael y tŷ am tua 22:00 a bod dyn gyda gwn, sef Thomas Cashman, wedi rhedeg ar ei ôl a thanio tair ergyd.

Dywedodd yr erlyniad fod Ms Korbel wedi agor ei drws ar ôl clywed sŵn y tu allan, ac wrth wneud hyn, fe wnaeth Mr Nee redeg i mewn i'w thŷ gyda Cashman ar ei ôl. 

Fe wnaeth Cashman geisio saethu i gyfeiriad Mr Nee unwaith yn rhagor a tharo drws blaen y tŷ, a dywedodd Mr McLachlan fod yr "ergyd yma wedi pasio drwy'r drws cyn mynd trwy law dde Cheryl Korbel wrth iddi geisio cau'r drws. 

"Yna fe aeth y bwled i mewn i frest merch Cheryl Korbel, Olivia Pratt-Korbel."

Bu farw Olivia yn ddiweddarach y noson honno yn Ysbyty Alder Hey. 

Clywodd y rheithgor mai'r broblem fwyaf yn yr achos oedd penderfynu os yr oedden nhw'n sicr mai Cashman oedd y dyn gyda'r gwn. 

Mae Cashman, o Grenadier Drive, Lerpwl, yn gwadu llofruddio Olivia, ceisio llofruddio Joseph Nee, anafu gyda bwriad i achosi niwed corfforol difrifol i Ms Korbel a dau gyhuddiad o feddu ar ddryll gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae'r achos yn parhau. 

 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.