Achos llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel: Galw ar reithgor i beidio â chael eu dylanwadu gan emosiwn

Mae aelodau o reithgor wedi eu rhybuddio i beidio â chael eu dylanwadu gan “ymateb emosiynol” wrth iddyn nhw dyngu llw ar ddechrau achos llys dyn sydd wedi’i gyhuddo o saethu merch naw oed yn Lerpwl.
Cafodd 10 dyn a dwy ddynes eu dewis ddydd Llun i wasanaethu ar y rheithgor yn Llys y Goron Manceinion ar gyfer achos llys Thomas Chapman, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Olivia Pratt-Korbel.
Mae'r erlyniad yn honni mai Cashman, 34 oed, oedd yn gyfrifol am saethu'r gwn i gyfeiriad Olivia yn ei chartref yn Dovecot, ychydig wedi 22:00 ar 22 Awst y llynedd.
Cafodd ei mam, Cheryl Korbel, 46, ei hanafu yn y digwyddiad wrth i Chapman redeg ar ôl Joseph Nee i mewn i'w chartref.
Dywedodd Mrs Ustus Yip wrth y rheithgor am bwysigrwydd peidio â chaniatáu i’w hunain gael eu “dylanwadu gan unrhyw adwaith emosiynol neu gydymdeimlad.
“Yn naturiol, mae marwolaeth plentyn, unrhyw blentyn, yn bwnc sensitif ac yn un lle mae’n normal i brofi adwaith emosiynol.
“Mae’n bwysig iawn wrth i chi wneud eich swydd fel rheithgor i roi'r emosiynau hynny o’r neilltu er mwyn i chi allu ystyried yr achos yn iawn a’r materion sydd angen i chi eu hystyried.”
Dywedwyd wrth y rheithgor ei bod yn debygol y byddai “llawer o ddiogelwch” o amgylch adeilad y llys ond na ddylen nhw gael eu heffeithio gan hynny.
Ychwanegodd Mrs Ustus Yip: “Rwy’n sôn amdano nawr oherwydd os ydych chi’n ymwybodol o bresenoldeb trwm yr heddlu yn yr adeilad ac o’i gwmpas ni ddylech chi synnu at hynny, ac ni ddylech chi boeni am hynny.
“Mae’n gwbl normal pan fydd gennym ni achosion uchel eu sylw yn digwydd yn yr adeilad hwn.”