Newyddion S4C

Cymru â’r gyfradd tlodi plant uchaf yn y DU yn ôl astudiaeth

ITV Cymru 19/05/2021
Llun Achub y plant

Mae gan Gymru'r gyfradd tlodi plant uchaf o holl genhedloedd y DU, gyda 31% o blant yn byw o dan y llinell dlodi, yn ôl ymchwil newydd.

Y gyfradd yn Lloegr yw 30%, tra bod 24% o blant yr Alban a Gogledd Iwerddon yn byw mewn tlodi.

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd bron i 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru, gyda chyfran uwch o blant yn cael eu heffeithio nawr nag ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cynyddu'r cefnogaeth i blant mewn tlodi yn ystod y pandemig.

Mae'r ymchwil gan Brifysgol Loughborough ar gyfer UK End Child Poverty Coalition yn dangos mai ardaloedd o ogledd a gorllewin Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf dramatig mewn tlodi plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae hyn wedi'i ysgogi gan newidiadau i incwm teuluol, tra bod costau tai uchel yng Nghaerdydd wedi herio llawer o deuluoedd medd ymchwilwyr.

Gwelodd ardaloedd gwledig ac arfordirol yng Nghymru hefyd gynnydd yn nifer yr achosion o dlodi plant, gyda Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion i gyd yn gweld cyfraddau'n cynyddu uwchlaw cyfartaledd Cymru.

Dywedodd Melanie Simmonds, pennaeth elusen Achub y Plant yng Nghymru: “Rydym wedi clywed dro ar ôl tro gan deuluoedd sy’n byw ar incwm isel sut maen nhw wedi gorfod torri nôl ar hanfodion fel bwyd, gwres a dillad i blant ac yn suddo’n ddyfnach i ddyled.

"Hefyd, nid oedd gan lawer o rieni'r offer, yr adnoddau na'r sgiliau i gefnogi dysgu a datblygiad eu plentyn o gartref yn ddigonol, sydd wedi arwain at lawer o straen a phryder."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "cynyddu cefnogaeth yn ystod y pandemig."

Dywedodd llefarydd: “Byddwn yn cefnogi’r holl blant a theuluoedd sydd angen help -  gan gymryd camau brys i helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi, gan gynnwys darparu mwy na £52m i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd at y Pasg 2022, yn ogystal â £13.9m ychwanegol trwy'r Gronfa Cymorth Ddewisol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.