Sbaen yn gyrru 4,000 o fudwyr yn ôl i Foroco

CC
Mae'r awdurdodau yn Sbaen wedi gyrru hanner y mudwyr oedd wedi croesi i diriogaeth y wlad ar begwn Moroco yn ôl dros y ffin.
Ddydd Llun, fe gyrhaeddodd tua 8,000 o fudwyr draeth dinas Ceuta, sydd ar benrhyn dan reolaeth Sbaen ac yn ffinio gyda Moroco.
Dywedodd Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, y byddai'n rheoli'r datblygiad diweddaraf drwy yrru 200 o swyddogion yr heddlu i ddelio â'r sefyllfa.
Yn ôl MailOnline, fe benderfynodd y mudwyr groesi'r ffin yn sgil dadl ddiplomyddol rhwng Sbaen a Moroco dros ddyfodol Gorllewin Sahara.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Mario Sánchez Bueno