Newyddion S4C

Aelod Seneddol yn ‘hynod siomedig’ ar ôl codi amheuon am Undeb Rygbi Cymru y llynedd

02/03/2023
Tonia Antoniazzi

Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi dweud ei bod hi’n “hynod siomedig” na ddigwyddodd ddim byd ar ôl iddi godi amheuon am Undeb Rygbi Cymru y llynedd.

Roedd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi, sy’n gyn-chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru y llynedd i godi cwestiynau am ddiwylliant Undeb Rygbi Cymru yn y gorffennol.

Ond wrth siarad heddiw dywedodd nad oedd “dim byd wedi digwydd” nes i raglen BBC Wales Investigates ddarlledu ym mis Ionawr.

“Roedd angen i rai merched dewr iawn godi llais a gwaith gan dîm newyddiadurol anhygoel BBC Wales Investigates i ddangos yr ymddygiad gwael sydd wedi digwydd yn Undeb Rygbi Cymru,” meddai Tonia Antoniazzi yn Nhŷ’r Cyffredin.

Pwysleisiodd fod angen “adolygiad o gorun i sawdl rygbi yng Nghymru” a fyddai yn ymestyn hyd yn oed at “y rheini sy’n golchi'r crysau”.

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Dawn Bowden, eisoes wedi cadarnhau ei bod hi wedi derbyn llythyr gan Tonia Antoniazzi y llynedd.

Ond dywedodd wrth y Senedd nad oedd “unrhyw fanylion” yn y llythyr tu hwnt i’r rheini oedd eisoes yn y parth cyhoeddus.

‘Argraff’

Wrth gloi’r ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod wedi cysylltu gydag Undeb Rygbi Cymru yn gofyn am sgwrs.

Ychwanegodd fod prif weithredwr dros dro'r undeb, Nigel Walker, wedi “gwneud argraff” arno yn y gorffennol.

Ond rhybuddiodd fod y problemau yn ymestyn y tu hwnt i Undeb Rygbi Cymru.

“Rwy’n ofni nad dim ond rygbi - dw i’n meddwl fod yna sawl corff sydd angen ymdrin â’r materion yma,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.