Newyddion S4C

Sue Gray - Llun Llywodraeth y DU

Syr Keir Starmer yn penodi Sue Gray yn bennaeth staff

NS4C 02/03/2023

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi penodi Sue Gray yn bennaeth staff newydd. 

Daeth yr uwch was sifil i'r amlwg wrth iddi arwain ymchwiliad i bartïon honedig o fewn Rhif 10 Downing Street a Whitehall yn ystod cyfnod clo y pandemig Covid-19. 

Yn sgil ei phenodiad mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi codi cwestiynau ynglŷn â pha mor ddiduedd oedd hi yn y gorffennol.

"Onid oedd y fenyw hon i fod i fod yn esiampl i ddidueddrwydd?" gofynodd wrth i'r newyddion dorri. 

"Bydd cymryd â rôl mor wleidyddol yn arwain at lawer o gwestiynu ynglŷn â pha mor ddiduedd oedd hi yn ei swydd flaenorol."

Ymddiswyddo

Yn ei hadroddiad i Partygate, dywedodd Ms Gray fod yna "fethiant arweinyddol" o fewn Llywodraeth y DU.

Derbyniodd Mr Johnson, ynghyd a'r prif weinidog presennol Rishi Sunak, ddirwy am dorri rheolau Covid-19 yn 10 Stryd Downing.

Bellach mae Ms Gray wedi ymddiswyddo o'i swydd yn Swyddfa'r Cabinet ac mae disgwyl iddi ymuno a thîm Syr Keir Starmer, a fydd yn gobeithio disodli Mr Sunak yn yr etholiad nesaf. 

Nid oes cadarnhad ar bryd pryd y bydd Ms Gray yn dechrau ar ei swydd newydd. Fe fydd rhaid i'r apwyntiad cael ei wirio gan y sefydliad sydd yn goruchwylio swyddi newydd gweinidogion ac uwch weision sifil - y Pwyllgor Ymgynghorol ar Apwyntiadau Busnes. 

Fe fydd y pwyllgor yn rhoi cyngor i'r prif weinidog ynglŷn â'r apwyntiad, gan roi i Rishi Sunak y pŵer i wrthod apwyntiad Ms Gray. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.