Newyddion S4C

Cei Connah v Y Seintiau Newydd

Cipolwg ar unig gêm Cwpan Cymru JD nos Wener

Sgorio 03/03/2023

Mae’n benwythnos rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD a bydd Y Bala, Cei Connah, Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd yn brwydro i sicrhau eu lle yng ngêm fwyaf calendr y pyramid pêl-droed Cymreig.

Dyma’r tro cyntaf i bedwar clwb o’r Chwech Uchaf gyrraedd y rownd gynderfynol ac felly mae disgwyl i’r safon fod yn uchel a’r gemau i fod yn rhai cystadleuol.

Y Bala v Cei Connah | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein) Cae y Castell, Y Fflint

Am y pumed tro’r tymor yma bydd Y Bala yn herio Cei Connah, a gyda’r dair gêm ddiwethafrhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal ar ôl 90 munud, mae’n gaddo i fod yn gêm agos ar Gae y Castell, Y Fflint.

Gorffennodd hi’n 1-1 yn y gêm gynghrair bythefnos yn ôl yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, er i Gei Connah chwarae bron i awr o’r gêm ddyn yn brin yn dilyn cerdyn coch Harry Franklin.

Ond Y Bala oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr, yn curo’r Nomadiaid ar giciau o’r smotyn yn dilyn 90 munud di-sgôr.

Ac roedd ‘na gêm ddi-sgôr arall rhwng y timau yn gynharach ym mis Ionawr, sy’n brawf ei bod hi bron yn amhosib gwahanu’r ddau dîm yma eleni.

Mae yna bum cerdyn coch wedi cael eu dangos yn y bedair gêm blaenorol rhwng y clybiau’r tymor yma, ac mae’n siwr bydd disgyblaeth yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr nos Wener.

Er bod y timau wedi cwrdd yn gyson dros y tymhorau diwethaf, hon fydd y gêm gyntaf rhwng y clybiau yng Nghwpan Cymru ers y bedwaredd rownd yn Chwefror 2015, a gorffennodd honno’n gyfartal hefyd cyn i Gei Connah ennill ar giciau o’r smotyn.

Yn Ebrill 2017, fe sicrhaodd Y Bala eu buddugoliaeth fwyaf hanesyddol gan drechu’r Seintiau Newydd o 2-1 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn Nantporth, Bangor gan godi’r tlws am yr unig dro yn eu hanes.

A blwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth Cei Connah ail-adrodd y gamp yn rownd derfynol 2018 gan guro Aberystwyth i gael eu dwylo ar y cwpan am y tro cyntaf erioed.

Mae’r Bala wedi curo Penarlâg, Y Fflint, Pontypridd a Llansawel yng Nghwpan Cymru y tymor yma, ac ar ôl codi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr mae Hogiau’r Llyn yn anelu am y dwbl eleni.

Mae Cei Connah wedi curo Dinbych, Bae Colwyn, Llanelli ac Airbus UK i gyrraedd y rownd gynderfynol am y pumed tro mewn chwe cynnig.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.