Ghislaine Maxwell yn apelio yn erbyn ei dyfarniad

Mae Ghislaine Maxwell wedi cyflwyno apêl yn erbyn ei dyfarniad mewn cyswllt â throseddau rhyw, gan honni bod gan ddioddefwyr "gof sy'n pylu."
Cafodd y ddynes 61 oed ei dyfarnu'n euog gan reithgor o ddenu merched ifanc i barlyrau tylino, cyn i'r paedoffil Jeffrey Epsgtein eu camdrin yno rhwng 1994 a 2004.
Cafodd ei dedfrydu i garchar am 20 mlynedd gan lys yn Efrog Newydd fis Mehefin 2022.
Wrth gyflwyno'r apel nos Fawrth, mae Maxwell yn amlinellu ei rhesymau, gyda'i chyfreithwyr yn cyfeirio at "gamgymeriadau" gan y llys a Llywodraeth yr Unol Daleithiau a gyflwynodd y cyhuddiadau yn eu herbyn.
Mae hi'n galw ar i'r dyfarniad gael ei ddi-ystyru. Ac os nad yw hynny yn digwydd, mae'n galw am achos llys newydd neu achos dedfrydu newydd.
Cafodd Maxwell, sy’n ferch i’r dyn busnes, y diweddar Robert Maxwell, ei harestio yng Ngorffennaf 2020.