
Cofio 60 blynedd ers atal boddi Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach
Cofio 60 blynedd ers atal boddi Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach

60 mlynedd ers yr ymgyrch lwyddiannus i atal Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach rhag cael ei foddi, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr ardal i nodi'r garreg filltir.
Yn neuadd y pentref, mae cyfle i bobol ddod ag unrhyw ddeunydd yn gysylltiedig â'r ymgyrch, er mwyn creu record ddigidol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ar 16 Mawrth 1963 dysgodd trigolion ardal Llangyndeyrn am gynllun i foddi'r cwm wrth ddarllen erthygl ym mhapur newydd y Western Mail.
Roedd Corfforaeth Ddŵr Abertawe eisiau boddi tir amaethyddol rhwng Llangyndeyrn a Phorthyrhyd er mwyn darparu dŵr ar gyfer Abertawe.
Yn sgil hynny, daeth aelodau'r gymuned ynghyd i drafod ffyrdd o wrthwynebu'r cynlluniau.
A Huw Williams oedd un o'r ffermwyr lleol a benderfynodd ddal ei dir, yn llythrennol.

"O'dd e'n ergyd odnadwy i dweud y gwir," meddai.
"Fi'n cofio darllen heading y Western Mail 'A Welsh valley faces death by drowning'. Wrth ddarllen ymlaen, geshi'r sioc rhyfedda'.
"Beth o'n nhw mynd i foddi o'dd 'y nghartre' i a dyffryn Gwendraeth i gyd o Langyndeyrn i fyny mor bell a Phorthyrhyd."
'Colli bywoliaeth'
O dan y cynlluniau byddai fferm Huw a sawl un arall wedi eu boddi.
"Byddai'r argae dros 80 troedfedd, dros cefen y fferm a tu lawr i'r pentre'.
"O'n i am golli'n ffarm a'n bywoliaeth a sawl ffarm arall yn colli ffarm a bywoliaeth."

Pan ddysgodd y gymuned am y cynlluniau, cafodd pwyllgor amddiffyn ei sefydlu er mwyn gwrthwynebu hynny.
Roedd y gwrthwynebiad yn ddiflino, ac fe aeth Corfforaeth Ddŵr Abertawe â'r ymgyrchwyr i'r llys.
Oherwydd pryderon y gallai rhai gael eu carcharu, cafodd cyfarfod ei gynnal er mwyn ystyried pwy fyddai'n fodlon treulio cyfnod o dan glo dros yr achos.
"Fi'n cofio'n iawn buon ni'n martso trw'r bore trwy dre Caerfyrddin yn cario baneri a pethe.
"Ethon ni i'r cwrt a colli hwnnw wedyn, wel oni'n eitha' becso erbyn hyn â dweud y gwir, o'dd y ffermwyr yn eitha' diflas yn dod mas.
"O'n nhw'n gwbod nawr bod hi'n dod i'r pwynt allen nhw ddodi ni yn y carchar a dweud y gwir.
"Y pwyllgor nesa geson ni dyna beth o'n ni'n neud, dewis pwy o'dd mynd i sefyll yn y carchar a pwy o'dd mynd i sefyll gatre'."
Rhoi'r gorau i gynlluniau
Pan ddaeth swyddogion i fesur y caeau, roedd y ffermwyr wedi cloi'r gatiau a symud cerbydau eu ffermydd er mwyn eu rhwystro rhag cael mynediad at y tir.
Wrth i'r gwrthwynebwyr barhau i ymgyrchu a gwrthod ildio, rhoddodd Corfforaeth Ddŵr Abertawe y gorau i'w chynlluniau.
Cafodd safleoedd eraill eu hystyried ar gyfer darparu dŵr i Abertawe, a chafodd y cwm ei achub.
"Ffindon nhw'r man delfrydol ar gyfer cronfa ddŵr lan yn y Brianne.
"Fi'n falch iawn bod yr ymgyrch wedi llwyddo, falch iawn."