Newyddion S4C

Negeseuon Gŵyl Dewi gan wleidyddion Cymru

01/03/2023
S4C

Ar ddydd Gŵyl Dewi, mae prif wleidyddion Cymru wedi dymuno diwrnod hapus i bobl Cymru.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud bod dydd Mercher yn “gyfle i bawb ddod at ei gilydd a dathlu ein Cymreictod.”

Ychwanegodd bod yr ŵyl yn gyfle i “ni ddangos pwy ydym ni, a beth sy’n bwysig i ni.

“Mae Cymru’n genedl sy’n falch o fod yn agored a blaengar. Cenedl o gymunedau clos, sy’n credu’n gryf mewn cyfiawnder a thegwch i bawb. Cenedl o Noddfa, sy’n rhoi croeso i bobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac eisiau lle saff i fyw. Cenedl sy’n arwain y byd wrth ddod yn gynaliadwy, yn Gymru sero net.

“A chenedl i fusnesau, pobl greadigol ac arloeswyr lwyddo.”

Fe aeth ymlaen i son am ddiwylliant a hanes Cymru.

"Mae gennym hanes hir, diwylliant lliwgar ac unigryw, a iaith i’w thrysori – Cymraeg."

“Heddiw, mae’r Gymru fodern yn arloesol, yn gynhwysol – ond yn fwy pwysig na dim, mae Cymru yn garedig."

“Ble bynnag yr ydych yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi – mwynhewch!”

'Blwyddyn gyffrous'

Mae David TC Davies hefyd wedi cyhoeddi neges Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf yn ei rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Image
newyddion

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous i ddod.

“Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae’n bleser gen i heddiw gyhoeddi fy nghyfarchion Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf a hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru a ledled y byd.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i’n cenedl er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi golygu costau ynni uchel, gan wneud bywyd yn anodd i lawer. Ond mae hefyd wedi dod â’r gorau o’r ysbryd cymunedol y mae Cymru mor enwog amdano. Mae cymaint o bobl wedi croesawu pobl o Wcráin i’w cartrefi, gan ddarparu noddfa iddyn nhw a chynnig cartref i’r rhai sydd mewn angen dwys." 

Mae'n cyfeirio at heriau'r pandemig, swyddi newydd a dyfodol Gwyrdd i Gymru.

“Dim ond oherwydd y bobl sy’n cyfrannu eu hegni a’u hangerdd at wneud ein cymunedau yn lleoedd gwych i fyw ynddynt y mae’r dyfodol cyffrous hwn i Gymru yn bosibl. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.