Y Gweinidog Iechyd yn gwrthod galwad i ymddiswyddo wedi i Betsi Cadwaladr ddod o dan fesurau arbennig
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi gwrthod galwadau i gamu lawr ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei osod o dan fesurau arbennig unwaith eto.
Daw hyn wedi i adroddiad damniol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddweud bod problemau ar frig y bwrdd iechyd yn “berygl sylfaenol” i allu’r bwrdd i weithio’n effeithiol.
Yn sgil yr adroddiad, mae cadeirydd, is gadeirydd ac aelodau annibynnol y bwrdd wedi ymddiswyddo.
Dyma'r eildro o fewn deng mlynedd i'r bwrdd iechyd ddod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, wedi iddo hefyd gael ei osod o dan fesurau arbennig rhwng 2015 a 2020.
Yn dilyn y newyddion, mae'r gwrthbleidiau yng Nghymru wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig yn y lle cyntaf.
'Ofni'
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd ac Aelod y Senedd dros Ynys Môn, gwestiynu ddydd Llun a ddylai Eluned Morgan aros yn Weinidog Iechyd.
"A hithau wedi cael gwared i bob pwrpas ar y bwrdd yma ac yn barod iawn i bwyntio'r bys ar bobl eraill," meddai.
"Dwi'n gofyn iddi hi, ydi hi ei hun yn ystyried go iawn os mai hi di'r un sydd â hyder y bobl i arwain y GIG?
"Achos dwi'n ofni, yn sicr o'r rhan pobl yn y gogledd, mai na ydi'r ateb i hynny."
Ond wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Mawrth, fe wnaeth Eluned Morgan wrthod unrhyw alwadau i gamu lawr.
"Dwi yn meddwl bod o'n bwysig i fi ganolbwyntio ar beth sydd angen ei wneud yn y gogledd.
"Bod ni'n gweld gwell arweinyddiaeth, bod ni'n gweld bwrdd sy'n fwy effeithiol, bod ni'n newid y diwylliant yn y bwrdd.
"Bod ni'n gwella safon y gwasanaeth a bod ni'n sicrhau diogelwch cleifion, dyna be dwi'n trio gwneud gyda'r ymateb yma gan Lywodraeth Cymru."