Galwad i blant sy’n cael eu cenhedlu o ganlyniad i rodd sberm ac wy gael gwybodaeth am rieni biolegol

Mae galwadau i roi’r hawl i blant sy’n cael eu cenhedlu o ganlyniad i rodd sberm ac wy gael mynediad i wybodaeth am eu rhieni biolegol cyn troi’n oedolion.
Ar hyn o bryd, ni all plant sy’n cael eu cenhedlu gan sberm ac wyau sydd wedi eu cyfrannu gan roddwyr, ganfod unrhyw wybodaeth am eu rhieni tan eu bod yn 18.
Ond mae’r corff cyhoeddus, yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol (HEFA), yn dweud bod angen diweddaru’r gyfraith er mwyn caniatáu’r wybodaeth gael ei rannu yn syth ar ôl genedigaeth, os yw'r rhoddwyr yn fodlon.
Yna, mi fyddai rhieni yn cael y dewis ar adeg y driniaeth os ydyn nhw eisiau dewis rhoddwyr sy'n fodlon cael cyswllt cyn i’r plentyn droi’n 18, neu ar ôl.
Mae’r cynigion yn rhan o lu o newidiadau arfaethedig i’r gyfraith sydd yn llywodraethu clinigau ffrwythlondeb yn y DU.