
Siopau ar draws Cymru’n cael eu dal yn gwerthu fêps i blant dan oed
Siopau ar draws Cymru’n cael eu dal yn gwerthu fêps i blant dan oed

Mae nifer o siopau ar draws de a gorllewin Cymru wedi cael eu dal ar gamera yn gwerthu fêps i blant dan oed.
Wrth ffilmio’n gudd ar gyfer rhaglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar, fe wnaeth pump allan o wyth siop werthu fêps i blant 15 ac 16 oed, gan gynnwys tair siop yng Nghaerdydd a dwy yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'n anghyfreithlon i werthu teclyn fêpio a hylif fêpio gyda nicotin i unrhyw un o dan 18 oed a gall siopau wynebu dirwy o hyd at £2,500 am gyflawni’r drosedd.
Ymddiheurodd tair o’r siopau gyda pherchennog un yn dweud bod “camgymeriadau yn gallu digwydd”.
Dywedodd siop arall nad oedden nhw yn gwerthu fêps i blant, onibai eu bod nhw gyda’u rhieni neu gyda chaniatad eu rhieni i’w prynu, er bod hyn yn dal yn anghyfreithlon.

Yn 2022 dywedodd 15.8% o blant rhwng 11 a 17 oed eu bod nhw wedi trio fêpio, cynnydd o 4.6% o’r flwyddyn gynt.
Dywedodd un plentyn 14 oed sydd wedi bod yn fêpio am ddwy flynedd: “Dwi’n meddwl fy mod i’n gwneud e achos mae llawer o fy ffrindiau yn ei wneud e a dw i wedi cael fy mhwyso i mewn i’w wneud e.”
Esboniodd y bachgen (sydd ddim yn cael ei enwi er mwyn ei warchod) ei fod e’n hawdd iawn iddo gael gafael ar fêps.
“Dw i’n prynu nhw o’r dref. Dw i wedi bod mewn yn fy ngwisg ysgol o’r blaen ac maen nhw jyst yn rhoi e i chi,” meddai.
'Dylanwad'
Mae mam y bachgen yn ymwybodol ei fod yn fêpio ond yn ei chael hi’n anodd atal ei mab rhag gwneud hynny.
Dywedodd y fam: “Dw i’n teimlo fel bod dim modd o’i stopio gan fod y siopau yn gwerthu fêps iddo fe.
“Dw i ddim yn nabod un plentyn yn ei harddegau sydd ddim yn fepio. Maen nhw’n cael eu targedu at blant, y lliwiau a’r enwau. Paid â dweud wrth’a i eu bod nhw’n cael eu hanelu at oedolion.”
O ganlyniad i gynnydd yn nifer y bobol ifanc sydd yn fêpio, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dechrau gwasanaeth i helpu plant sydd yn gaeth i fepio.

Mae Trystan Wyn Sion yn Ymarferydd Ysmygu a Llesiant ar gyfer y bwrdd iechyd ac fel rhan o’i waith mae’n cynnal sesiynau gyda disgyblion sy’n gaeth i fêpio.
"‘Dy’n ni’n gwybod bod y dylanwad mae nicotîn yn cael ar yr ymennydd datblygiadol yn un cryf," meddai.
Dywedodd fod hyn yn cael effaith ar allu plant i reoli eu hemosiynau a’u teimladau, a bod hynny'n effeithio ar eu haddysg a’u hymddygiad o fewn yr ysgol.
“Dw i’n credu bod elfen o gyfrifoldeb gyda chwmnïau fêp i roi fwy o reolau yn lle ar gyfer yr hysbysebion sy’n cael eu rhoi mas ynglŷn â’r blasau sy’n amlwg, dw i’n credu, yn targedu pobl ifanc," meddai.
Y Byd ar Bedwar nos Lun, 27 Chwefror, 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.