Newyddion S4C

Agwedd parc gwyliau yn Llŷn tuag at y Gymraeg yn ‘sarhaus’

25/02/2023

Agwedd parc gwyliau yn Llŷn tuag at y Gymraeg yn ‘sarhaus’

Mae arwyddion uniaith Saesneg gan barc gwyliau ym Mhen Llŷn yn “amharchus ac mae angen eu newid” meddai cynghorwyr lleol.

Mae arwyddion newydd sydd wedi eu gosod ger mynedfa parc Hafan y Môr a chaffi newydd cwmni Haven yn uniaith Saesneg. 

Dywed y cwmni fod arwyddion dwyieithog ar y safle ac mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C eu bod yn ymchwilio i'r mater.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Rhys Tudur, y cynghorydd lleol dros Lanystumdwy: “Roedd pobl leol wedi tynnu fy sylw ar yr arwyddion yma.

“Mae o yn bechod i ddeud gwir fod arwyddion sydd wrth lygaid y cyhoedd, ac ar lwybr arfordir cyhoeddus ac wrth y lôn fawr yn uniaith Saesneg.

“‘Fysat ti meddwl mai’r peth lleiaf fysa'n nhw’n medru gwneud i barchu ein cymunedau ni ydy i barchu’r iaith Gymraeg. Dydi o ddim yn gofyn lot.”

Image
newyddion

Fe wnaeth Rhys Tudur gysylltu gyda’r parc yn uniongyrchol yn Gymraeg gan ddweud ei fod yn pryderu am yr arwyddion Saesneg.

Daeth ateb yn Saesneg gan swyddog yn dweud “nid wyf yn siaradwr Cymraeg, felly nid yw’n bosib i mi ymateb i'r e-bost.”

Wedi i Rhys ymateb yn ddwyieithog a holi a fyddai’n bosib i’w ymholiad gael ei anfon at gydweithiwr sy’n siarad Cymraeg, fe gafodd ei gyhuddo o wahaniaethu ac o fwlio. 

Mae’r e-bost yn nodi: “Roeddwn i’n credu bod Cymru’n wlad amrywiol a chynhwysol, ac na wahaniaethir yn erbyn unrhyw un. 

“Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud bod eich e-bost yn nawddoglyd ac rwy’n teimlo fel fy mod wedi cael fy mwlio, ac yn bendant yn gwahaniaethu yn fy erbyn.”

Dywedodd Rhys fod yr agweddau yma “angen newid."

“Oedd o yn syndod i fi,” meddai Rhys.

“Jyst gofyn yn gwrtais ac yn ddwyieithog os fysa’r person mor garedig ag anfon e-bost ymlaen at rywun y medar y Gymraeg, ac wedyn nhw yn honni fy mod yn gwahaniaethu.

“Mewn gwirionedd y gwrthwyneb - nhw oedd wedi trin fi yn gwbl amharchus.”

Mewn cais cynllunio yn 2019 fe wnaeth cwmni Haven nodi bod dros 50% o’i gweithwyr yn Hafan y Môr yn medru’r Gymraeg.

Ond gwrthododd y swyddog ag anfon ymholiadau Rhys ymlaen i siaradwr Cymraeg. 

“O’n i yn llwyr dan yr argraff bod nifer helaeth o bobl sy’n gweithio ar y safle yn gallu siarad ac ateb yr ymholiad yn y Gymraeg. Mae’r ceisiadau cynllunio yn honni bod ganddyn nhw weithlu Cymraeg ond gwrthodwyd ymateb ymholiad. 

“Does geno nhw ddim ymdeimlad bod y Gymraeg yn bwysig."

Ychwanegodd Rhys: “Mae o yn ergyd i’r teimlad ein bod ni yn gymuned, does 'na ddim byd fyw poenus na theimlo bod dy gymuned yn dieithro.”

Image
newyddion

Yn ôl Richard Glyn Roberts, y cynghorydd lleol dros Abererch, mae wedi cael profiad tebyg wrth gysylltu gyda’r cwmni. 

“Mater bychan oedd hwn o’r cychwyn, ond drwy wrthod ymholiadau Cymraeg mi ydan ni wedi cael cip o agwedd eithaf diystyrllyd a sarhaus tuag at y grŵp iaith yn lleol." 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn ymwybodol o’r pryderon ynghylch y mater yma ac fe allwn gadarnhau bydd yr arwyddion yn derbyn sylw fel mater o frys gan y cwmni er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei harddangos hefyd.”    

Dywedodd Haven bod arwyddion Cymraeg wedi eu gosod y tu mewn i safle parc Hafan y Môr.

“Rydym yn falch o fod yn aelod gweithgar o gymuned Pwllheli ac mae llawer o’r arwyddion ym mharc Hafan y Môr yn ddwyieithog”, medd llefarydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.