Newyddion S4C

Cyfle i Gymru 'fanteisio ar wendidau Lloegr' er fod URC 'ar chwâl'

25/02/2023
Rygbi Cymru

Mae Gwyn Jones yn credu y bydd rhaid i un o ranbarthau Cymru ddod i ben yn y dyfodol, gan ddweud bod rygbi “ar chwâl” ac “angen newidiadau drwyddi draw”.

Daw sylwadau cyn-gapten Cymru cyn i'r crysau cochion groesawu Lloegr i Stadiwm Principality yn y Chwe Gwlad dydd Sadwrn – gêm y mae Jones yn credu fod gan Gymru obaith o'i hennill.

Bydd y gêm yn mynd yn ei blaen ar ôl i’r chwaraewyr fygwth mynd ar streic a pheidio chwarae - cyn iddynt ennill cytundeb am amodau gwell i chwaraewyr proffesiynol gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) a’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRB).

“Mae’n rhaid llongyfarch chwaraewyr Cymru am eu safiad dewr dros y pythefnos diwethaf,” meddai Gwyn Jones, a fydd yn sylwebu ar y gêm ar gyfer S4C.

“Fe wnaethon nhw fygythiad gwirioneddol i streicio cyn un o ddiwrnodau ariannol pwysicaf URC, ac fe wnaethon nhw ennill, gan helpu eu ffrindiau yn y rhanbarthau wrth wneud hynny.

“Dylai’r sefyllfa fyth fod wedi dod i hyn ac i’r rhan fwyaf o bobl, mae’n enghraifft arall o’r llanast sydd yn Undeb Rygbi Cymru ar hyn o bryd. Dyma’r ail ddigwyddiad i godi cywilydd mawr ar y sefydliad dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n glir nad ydyn nhw’n ffit i redeg y gêm yma.

“Ond mae’r system rygbi proffesiynol angen newidiadau drwyddi draw. Yn Lloegr, fe aeth Wasps a Chaerwrangon i’r wal ac fe gafodd y pencampwyr Caerlŷr eu hachub ar ôl buddsoddiad o £13 miliwn gan y perchnogion. Mae’r system ar chwâl.

“Does gen i ddim ateb i’r holl broblemau, ond rwy’n sicr bydd rhaid i gyflogau gostwng yn sylweddol dros amser ac rydw i’n disgwyl y byddwn ni’n mynd i lawr o bedwar tîm proffesiynol yma yng Nghymru, lawr i dri neu dau, hyd yn oed.

“Ond mae sut mae torri lawr i dri? Fydd dim un o’r rhanbarthau yn mynd yn wirfoddol. Felly sut mae penderfynu ar ba rai i’w dorri? Beth fydda enwau’r timau sydd ar ôl? Sut byddan nhw’n cael ei hariannu? Ble fyddan nhw’n cael ei leoli? Mae lot o gwestiynau i’w hateb.”

'Lloegr dan bwysau'

Er i Loegr drechu’r Eidal yn eu gêm ddiwethaf yn dilyn colli yn erbyn Yr Alban, mae cyfle i Gymru fanteisio ar eu gwendidau amddifynol, yn ôl Jones.

Ychwanegodd: “Mae hwn wedi bod yn gyfnod cythryblus i’r tîm yn y Chwe Gwlad; Scandal, streiciau a dwy chwalfa.

“Mae’n dda gweld eu bod nhw wedi sticio gyda’i gilydd, ond beth yw’r siawns am fuddugoliaeth ar ôl wythnos mor galed? Eithaf prin, byddwn i’n dweud.

“Ond beth sy’n rhoi gobaith i mi yw bod Lloegr heb berfformio eto chwaith. Maen nhw wedi ildio chwe chais gartref yn erbyn Yr Alban a’r Eidal hyd yma.

“Yn anffodus, mae ymosod Cymru yn bell o fod yn beryglus ar hyn o bryd, wedi iddyn nhw sgorio dwy gais yn unig hyd yma, ac ildio naw.

“Os all Gymru rhoi Lloegr dan bwysau, efallai y gwnawn nhw gwympo. Mae'n rhaid i Gymru gael y dorf y tu cefn iddyn nhw drwy fynd ar y blaen yn gynnar.

“Os ydyn nhw’n llwyddo i wneud hynny, mi fydd y gêm yn un gystadleuol.

"‘Hwyl’ a ‘chalon’ ydy prif arfau Cymru, yn hytrach na chwarae gyda strwythur clir. Mae’n annhebygol y bydden nhw’n ennill, ond dyw e ddim yn amhosib.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.