Newyddion S4C

Agor ysgol Gymraeg ryngwladol ar-lein ar ôl gweld galw mawr

26/02/2023

Agor ysgol Gymraeg ryngwladol ar-lein ar ôl gweld galw mawr

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel” meddai un sydd wedi penderfynu agor ysgol Gymraeg ryngwladol dros y we i blant rhwng tri ac 14.

Mae Sioned Rees Jones, sy’n wreiddiol o Lanrhystud ond sydd yn byw yn Llundain ers bron i 12 mlynedd, ar fin dechrau menter newydd, sef yr Ysgol Sadwrn.

Wedi iddi fagu ei phlentyn yn Llundain a gweld yr angen am wersi Cymraeg lle mae modd siarad gyda disgyblion eraill sy’n byw y tu allan i Gymru, fe benderfynodd Sioned holi os oedd rhieni eraill yn teimlo'r un fath.

Image
newyddion
Sioned Rees Jones

Cysylltodd rhieni o bedwar ban byd yn awyddus i’w plant gael gwersi Cymraeg.

“Mae e-byst wedi dod o bob man, mae o fel breuddwyd i ddeud y gwir. O’n i isio gwybod bod yr angen yna gyntaf cyn rhoi buddsoddiad sylweddol fewn idda fo, ond ma’n amlwg bod nhw wir hefod ddiddordeb,” meddai Sioned wrth Newyddion S4C.

“Dwi wedi cael rhieni yn cysylltu o Ganada, America, Iwerddon, Yr Alban, lot o ardal yn Lloegr, Brwsel, Copenhagen, Llydaw, yr Eidal, Menorca, Dubai, Hong Kong, Awstralia a llawer iawn o Seland Newydd a mwy!”

‘Llafur cariad’

Bydd yr ysgol yn cynnal gwersi ar-lein i ddosbarthiadau bychain o blant a bydd dydd ac amser y gwersi yn amrywio.

“Gwersi ar-lein fydd yr ysgol, bydd o i gyd yn rhithiol, awr yr wythnos o wersi i ddosbarthiadau bach rhwng 10 a 15 o ddisgyblion o unrhyw le yn y byd. Bydd yn cael ei gynnal tu allan i oriau ysgol arferol.

“Dwi ar dân i gynnal a chefnogi’r iaith, dwi’n frwdfrydig iawn dros strategaeth miliwn y siaradwyr Llywodraeth Cymru, dwi’n credu bod e yn heriol y targed yna a pam da chi wedi cael gwybod am ganlyniad y cyfrifiad ac mae o yn digalonni rhywun."

Un fydd yn anfon ei phlant i’r ysgol rithiol yw Lliwen MacRae sy’n wreiddiol o olgedd Cymru ond yn byw yn Ynys y Gogledd, Seland Newydd ers dros flwyddyn bellach gyda’i gŵr a thri o blant.

”‘Da ni ond wedi bod yma ychydig dros flwyddyn a dwi’n barod yn gweld nhw yn colli ychydig bach ar yr iaith, jest pethau bach fel dwi’n clywed nhw’n siarad gyda’i gilydd yn Saesneg weithia a ma’ hynna yn torri’n nghalon i.”

Image
S4C
Lliwen MacRae

Dywedodd Lliwen ei bod am i’w phlant weld y Gymraeg fel eu iaith gyntaf er nad ydynt yn cael cyfle i siarad yr iaith yn gymdeithasol yn Seland Newydd.

“Mae o yn andros o bwysig i fi, dwi o gefndir uniaith Gymraeg a dwi am i’r plant gadw’r iaith a’r diwylliant. Da ni yn gobeithio mynd adref a bod nhw yn gallu cyfathrebu efo’i teulu yn eu mamiaith. Dwi’n andros i grediniol bod yr iaith am elwa nhw am byth.

“Dwi meddwl bod o fwy achos dwi misio nhw golli pwy ydyn nhw - merched Cymraeg ydyn nhw a dwi’n angerddol am hynny a'i bod nhw yn cael eu trochi yn yr iaith.”

Bydd Sioned yn cynnal sesiynau cyflwyno dros yr wythnosau nesaf ac mae hi’n gobeithio y bydd yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.