Newyddion S4C

Cip ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio 25/02/2023
Bala v Aberystwyth

Mae’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy ac mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.

CHWECH UCHAF

Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C arlein)

Torrodd y newyddion yr wythnos yma bod Pen-y-bont yn debygol o golli pwyntiau ar ôl chwarae chwaraewyr anghymwys yn y gynghrair.

Mae hawl gan glybiau i ddefnyddio hyd at bump o eilyddion, ond yn ôl rheolau’r gynghrair, os yw tîm yn defnyddio mwy na thri eilydd mae’n rhaid i unrhyw eilydd pellach fod yn chwaraewr ieuenctid. 

Ymddengys bod Pen-y-bont wedi torri’r rheol honno, a gyda’r Gymdeithas Bêl-droed yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau, mae’n bosib bydd y clwb yn colli pwyntiau, fel y gwnaeth Airbus UK yn gynharach yn y tymor.

Bydd hon yn ergyd fawr i obeithion Pen-y-bont o geisio gorffen yn yr ail safle er mwyn sicrhau lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae siawns da y bydd gorffen yn 3ydd yn ddigon i selio lle’n Ewrop, ac ar ôl rhediad o naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth roedd Pen-y-bont mewn safle cryf i ddal eu tir yn y tri uchaf, ond bellach mae’n edrych fel bydd tîm Rhys Griffiths yn llithro lawr y tabl am dorri’r rheolau.

Mae’r Seintiau Newydd angen wyth pwynt o’u wyth gêm sy’n weddill i gipio’r bencampwriaeth am y 15fed tro yn eu hanes.

Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u 14 gêm flaenorol yn erbyn Pen-y-bont (ennill 11, cyfartal 3), ond mae’r gemau diweddar rhwng y ddau dîm wedi bod yn rhai agos tu hwnt.

Pen-y-bont oedd y clwb â’r record orau yn erbyn y Seintiau yn rhan gynta’r tymor, gan ildio dim ond unwaith mewn dwy gêm yn erbyn y pencampwyr (YSN 1-0 Pen, Pen 0-0 YSN).

Bydd y timau’n cyfarfod eto’r penwythnos nesaf yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD ar Barc Waun Dew, Caerfyrddin.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅
Pen-y-bont: ✅➖✅✅✅

Cei Connah (2il) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Hanner ffordd drwy’r tymor, wedi 16 gêm, roedd Cei Connah saith bwynt yn glir o’r Bala yn y 3ydd safle, ond bellach, ar ôl rhediad o chwe gêm gynghrair heb ennill, pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Nomadiaid â’r tîm sy’n 3ydd, ac mae perygl i dymor addawol droi mewn i dymor siomedig.

Er i Met Caerdydd golli’r penwythnos diwethaf am y tro cyntaf ers mis Tachwedd, byddai buddugoliaeth i’r myfyrwyr ddydd Sadwrn yn eu codi uwchben Cei Connah.

Dyw Met Caerdydd ond wedi ennill un o’u 20 gêm gynghrair flaenorol yn erbyn Cei Connah (cyfartal 7, colli 12), ond daeth y fuddugoliaeth honno ar benwythnos agoriadol y tymor hwn (Met 2-0 Cei).

Ers esgyn i’r Cymru Premier JD yn 2016 dyw Met Caerdydd heb ennill dim un o’u 10 gêm gynghrair yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy gan sgorio tair gôl yn unig (colli 7, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖➖❌➖➖
Met Caerdydd: ❌✅✅✅➖

Y Drenewydd (6ed) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl curo Aberystwyth o 6-1 ar ddiwedd mis Rhagfyr, dyw pethau heb fynd cystal i’r Drenewydd yn 2023 gyda’r Robiniaid heb ennill mewn pum gêm, ac ond wedi sgorio un gôl.

Mae’n stori weddol debyg yn Y Bala, sydd ond wedi sgorio unwaith mewn pedair gêm gynghrair, ac honno o gic rydd Adam Roscrow i gipio pwynt yn erbyn 10-dyn Cei Connah ddydd Sadwrn diwethaf.

Ond mae’r Bala wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd heb ildio gôl, a dyw tîm Colin Caton heb golli mewn 11 gêm yn erbyn y Robiniaid (ennill 10, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌➖❌➖✅

Y Bala: ➖➖❌➖✅

CHWECH ISAF

Pontypridd (10fed) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd ‘na ganlyniadau cadarnhaol i’r ddau dîm yma’r penwythnos diwethaf gyda Pontypridd yn sgorio yn yr eiliadau olaf i gipio pwynt allweddol yn Aberystwyth i aros uwchben safleoedd y cwymp.

Ac roedd hi’n fuddugoliaeth fawr i Hwlffordd yn erbyn Y Fflint wrth i’r Adar Gleision godi saith pwynt yn glir o’r ddau isaf gan aros o fewn pwynt i Gaernarfon yn y ras am y 7fed safle.

Mae Pontypridd wedi ennill eu tair gêm gartref ddiwethaf, tra bod Hwlffordd wedi colli eu pum gêm ddiwethaf oddi cartref.

A Pontypridd gafodd y gorau o’r gornestau yn erbyn Hwlffordd yn rhan gynta’r tymor gan ennill 3-2 gartref cyn y gêm gyfartal 1-1 ar Ddôl-y-Bont ym mis Rhagfyr.

Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖✅❌❌✅
Hwlffordd: ✅❌✅❌➖

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.