Arestiadau wedi i’r heddlu erlid car wedi'i ddwyn drwy strydoedd Caerdydd
Mae’r heddlu wedi arestio dau unigolyn yng Nghaerdydd ar ôl erlid car oedd wedi'i ddwyn drwy strydoedd y ddinas.
Dywedodd yr heddlu fod gyrrwr y car wedi rhoi ei droed i lawr ar ôl eu gweld.
Cafodd gyrrwr y car ddamwain yn fuan wedyn ac fe gafodd dau berson eu cymryd i’r ddalfa ar amheuaeth o sawl trosedd.
Cadarnhaodd yr heddlu fod y Volkswagen Polo gwyn wedi ei ddwyn yng Nghaerdydd y llynedd.
“Gwelwyd y car yr oedd yr heddlu yn drwgdybio a oedd wedi ei ddwyn yng Nghaerdydd ond fe frysiodd oddi yno ar ôl gweld ein ceir heddlu,” meddai Heddlu De Cymru mewn neges am 2.30am.
“Fe wnaeth yr heddlu erlid ond bu’r car mewn damwain ychydig yn ddiweddarach. Mae dau yn y ddalfa am nifer o droseddau. Roedd y car wedi ei ddwyn o Gaerdydd y llynedd."