Diflaniad Frankie Morris: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud fod dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad dyn ifanc yn ardal Bangor.
Dyw Frantisek "Frankie" Morris, 18 o Landegfan, Sir Fôn, heb gael ei weld ers 2 Mai.
Ddydd Sadwrn, fe gafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ac fe gafodd dyn a dynes eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ddydd Mawrth, tra bod dau arall wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad ddydd Llun medd swyddogion yr heddlu.
Dywedodd yr Arolygydd Owain Llewelyn o Heddlu'r Gogledd: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth barhaus wrth inni gynnal ein hymchwiliadau.
"Mae Swyddogion Arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Frankie, sy'n cael eu hysbysu'n rheolaidd yn ystod y cyfnod yma."