Gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr i fynd yn ei blaen
Bydd y gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn.
Roedd chwaraewyr clybiau Cymru a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru wedi cwrdd â phrif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol Malcolm Wall yn y Vale Resort ym Mro Morgannwg.
Roedd chwaraewyr rygbi Cymru wedi bygwth streicio os na ddaw cyfaddawd erbyn nos Fercher.
Roedd hynny wedi codi amheuon a fydd gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn yn cael ei chynnal.
Cafodd cyhoeddiad y garfan ar gyfer y gêm ei ohirio ddydd Mawrth, wedi i chwaraewyr a'r undeb fethu â chyfaddawdu.
Wrth siarad tu fas i westy'r Vale, pencadlys tîm rygbi Cymru, dywedodd capten Ken Owens fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai "anodd tu hwnt."
"Dros y 10 diwrnod diwethaf ni wedi bod yn broffesiynol iawn, mae lot wedi bod yn mynd oddi ar y cae.
"Mae dydd Sadwrn yn mynd ymlaen, ni di dod i gytundeb ni gyd yn hapus gyda."
Dywedodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, fod "trafodaethau cadarn" wedi cymryd lle.
"Dwi yn deall yn hollol y sefyllfa yr oedd y chwaraewyr yn wynebu, a ni ddylai'r PRB [Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru] wedi rhoi'r chwaraewyr yn y sefyllfa honno.
"Unwaith rydych chi'n cydnabod eich bod chi wedi rhoi rhywun mewn sefyllfa anodd ac maen nhw'n ymateb yn y ffordd maen nhw wedi, chi'n gwybod chi wedi cael rhywbeth yn anghywir.
"Fe fydd nifer o bethau yn cael eu rhoi mewn lle i wneud yn siŵr bod trafodaethau yn parhau o hynny mlaen.
"Felly bydd unrhyw broblemau sydd yn codi yn cael eu delio hefo yn gyflym."
Llun: Ken Owens ac Owen Farrell, capteiniaid Cymru a Lloegr