Carchar i ddyn am geisio cyflawni lladrad gyda gwn ffug

Mae dyn 42 oed o Abertawe wedi ei ddedfrydu i garchar am bedair blynedd a hanner ar ôl ceisio dwyn oddi ar ddynes gan ddefnyddio gwn ffug.
Fe anelodd Barry Cooke wn ffug at y ddynes 18 oed yng nghanol stryd yn Abertawe fis Tachwedd diwethaf gan fynnu ei bod hi’n rhoi ei heiddo iddo.
Fe redodd Cooke ar ôl y ddynes cyn iddi hi ddianc i mewn i gar ei ffrind ar Duke Street. Fe barhaodd i anelu’r gwn at y ddynes drwy ffenest y car gan fynnu iddi hi roi ei heiddo iddo, cyn ffoi wrth i’r ddynes ffonio’r heddlu.
Fe blediodd Cooke yn euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sioned Davies: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig i’r dioddefwyr. Yn amlwg mae Cooke yn droseddwr peryglus ac rwy’n falch ei fod wedi cael dedfryd o garchar am yr hyn a wnaeth e.”