Newyddion S4C

Cabinet yn cymeradwyo newid iaith ysgol ym Machynlleth

18/05/2021
Ysgol Bro Hyddgen

Mae Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo cynlluniau i droi ysgol yng ngogledd y sir yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Yn dilyn y penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, fe fydd Ysgol Bro Hydden yn newid o ysgol ddwy ffrwd i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Dywed y cyngor y bydd hyn yn “sicrhau bod pob disgybl yn dod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg”.

Gwnaeth y cyngor gynnal ymgynghoriad dros saith wythnos yn ystod mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, gyda’r cabinet yn cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig newid yn ffurfiol ar ôl “derbyn ac ystyried yr adroddiad ymgynghori”.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn. 

“Trwy symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith, bydd yn ein helpu ni gwrdd â’r nodau a’r amcanion yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.  Bydd hefyd yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac felly’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Lleisio pryderon

Er i’r cabinet gytuno’n unfryd i gymeradwyo’r cynnig, dywedodd Mr Davies fod pryderon wedi eu codi am newid iaith yr ysgol.

“Er i nifer ddatgan cefnogaeth i’r cynnig, cafwyd hefyd pryderon. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, byddwn yn gweithio gyda’r ysgol i sicrhau fod darpariaeth Ysgol Bro Hyddgen yn parhau i ateb anghenion dysgwyr ardal Machynlleth.

“Byddwn nawr yn parhau â’r cynnig i droi Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed gyntaf y sir trwy gyhoeddi’r hysbysiad statudol i gynnig y newid yn ffurfiol.”

Yn ôl y cyngor, bydd y newid yn cael ei gyflwyno gam wrth gam, blwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda dosbarth Derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.