Llanw isel yn gadael camlesi Fenis yn sych
Llanw isel yn gadael camlesi Fenis yn sych

Wedi wythnosau heb law a llanw isel yn yr Eidal mae lefelau dŵr camlesi enwog Fenis mor isel ni all gondolas a thacsis dŵr yrru drwy rannau o’r ddinas.
Mae diffyg glaw, system gwasgedd uchel, lleuad lawn a cherrynt y môr yn cael eu beio am y llanw isel sydd wedi cael effaith ar y ddinas sy'n arnofio.
Mae Fenis yn ddinas heb ffyrdd ac mae gwasanaethau brys fel ambiwlansys yn dibynnu ar y camlesi.
Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf mae gweithwyr ambiwlans wedi gorfod teithio ar droed i drin cleifion, meddai Paolo Rossi, pennaeth y gwasanaethau iechyd brys.
Mae swyddogion Fenis wedi beio llanw isel am y camlesi sych ond mae wythnosau o dywydd sych yn ystod y gaeaf wedi codi pryderon bod yr Eidal yn wynebu sychder arall ar ôl argyfwng yr haf diwethaf.
Yn ôl grŵp amgylcheddol Legambiente, mae gan y Po, afon hiraf yr Eidal sy'n rhedeg o'r Alpau yn y gogledd-orllewin i'r Adriatic 61% yn llai o ddŵr nag arfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, gwelodd yr Eidal y sychder gwaethaf ers 70 mlynedd a datganodd gyflwr o argyfwng yn yr ardaloedd o amgylch y Po.