Yr opera hip-hop sy’n newid agweddau

Mae opera hip-hop, sydd yn bwriadu gwneud theatr yn fwy hygyrch, wedi bod yn teithio ar hyd a lled Cymru.
Yn lle codi tâl am docynnau, mae’r opera yn gofyn i gynulleidfaoedd "dalu beth fedran nhw ei dalu”.
Yn seiliedig ar ffilm fer The House of Jollof Opera, daeth yr opera i Dŷ Pawb, Wrecsam y penwythnos hwn i brofi nad yw opera yn “lah-di-dah” ac yn “llenni coch moethus” i gyd.
Cafodd y sioe 20 munud o rap, hip-hop ac opera ei chyfansoddi a'i pherfformio gan yr artist Cymreig-Nigeriaidd, Tumi Williams, ac mae wedi cael ei chyfarwyddo gan Dr Sita Thomas sy’n Gymreig-Indiaidd.
Dywedodd Dr Thomas, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Swyddog Gweithredol Cwmni Theatr Fio yng Nghaerdydd, ei bod hi’n sioe wych i fod yn rhan ohoni.
“Yn bendant, nid opera draddodiadol yw hi. Rydym ni'n ceisio gwneud rhywbeth newydd iawn ac rwy'n meddwl bod y math hwn o ddarn yn llawer mwy hygyrch a phleserus i gynulleidfaoedd heddiw," meddai.
“Rydyn ni’n rhannu stori am gogydd Cymreig-Nigeriaidd sy’n dad gyda busnes coginio ei hun o Jollof Fegan. Rydym ni'n cwrdd ag ef ar ddiwrnod ei arolygiad felly mae'n risg uchel, mae'r pwysau ymlaen ac mae angen iddo brofi y gall gael sgôr hylendid 5 seren heddiw. “
Mae Dr Thomas yn credu ei bod hi’n bwysig rhannu straeon fel The House of Jollof Opera i gynrychioli Cymru fodern ac amlddiwylliannol.
“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn Sir Benfro, doeddwn i byth wir yn gweld pobl fel fi yn cael eu cynrychioli ar lwyfan, teledu neu ffilm. Felly, nawr fel cyfarwyddwr theatr, mae hi mor bwysig imi ein bod ni’n rhannu straeon sy’n gwbl gynrychioliadol o Gymru heddiw.”
Mae perfformiadau eisoes wedi eu cynnal yn Hwlffordd, yn Sir Benfro a bydd y sioe yn teithio i Gaerdydd yn fuan.
Dywedodd Tumi Williams, un o’r prif berfformwyr, yn ogystal ag awdur, cerddor a chogydd rhan amser, ei fod e wedi penderfynu gwneud y sioe yn un lle mae pobl yn talu yr hyn sy'n fforddiadwy iddyn nhw.
“O’m profiad i, ac o beth dwi’n ei wybod, mae hi’n anodd ar hyn o bryd. Mae hi’n anodd ar lot o bobl ac mae hi wedi bod yn anodd ers sbel nawr… Mae talu am rywbeth fel hyn yn wahanol i’r arfer i lawer o bobl felly mae gwahodd mwy o bobl a chael pobl fel fi fy hun i ddod i weld rhywbeth fel hyn yn gwneud synnwyr."
“I mi, pwrpas yr holl beth yw dod i fannau cymunedol fel Tŷ Pawb mewn gwirionedd – yn hytrach na mynd i’r ‘lights, camera, action’ o’r theatr fawr.”