Gwrthod mast 5G yn Wrecsam

Mae cais i godi mast 5G yn Wrecsam wedi cael ei wrthod.
Roedd cwmni Gallivan CK Hutchinson Networks (UK) Ltd. 5G wedi rhoi cais i Gyngor Wrecsam i godi mast 17 medr o uchder yn ardal Hightown yn y ddinas.
Yn natganiad cynllunio'r cais, roedd y datblygwyr yn dweud y byddai mast yn sicrhau cyflymder rhwydwaith o rhwng 1GB yr eiliad a 10GB yr eiliad yn yr ardal.
Ond ar ôl i drigolion Hightown fynegi eu pryder mewn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus, fe benderfynodd Prif Swyddog Chynllunio ac Economi Cyngor Wrecsam, David Fitzsimmon i wrthod y cynllun oherwydd yr "effaith weledol andwyol."
“Pwnc pryderus”
Dywedodd y cynghorydd Graham Rogers, sydd yn cynrychioli ward Hermitage: “Roedd hwn yn bwnc pryderus dros yr wythnosau diwethaf i drigolion Ffordd Percy a Stockwell Grove.
“Cawn weld os bydd apêl yn dilyn y penderfyniad, ond am y tro mi rydan ni’n hapus gyda’r penderfyniad.”