Alex Jones wedi wynebu ‘adlach’ ar y One Show oherwydd ei hacen Gymreig

Mae Alex Jones wedi dweud ei bod hi wedi wynebu “adlach” gan rai o wylwyr y One Show oherwydd ei hacen Gymreig.
Mewn sylwadau yn y Times cyn darlledu y rhaglen Stori’r Iaith ar S4C ddydd Mercher dywedodd bod gwylwyr wedi cwyno nad oedden nhw’n ei deall hi.
“Roedd yna rywfaint o adlach,” meddai. “Roedd fy mos ar y pryd, ac roedd o’n ddyn hyfryd, wedi rolio ei lygaid a dweud ‘O Jones pan ddim dweud ‘fruit’ yn lle ‘frewt’ am fy mod i’n cael e-byst yn cwyno.
“Ro’n i’n synnu braidd am ein bod ni’n trafod cymaint ar hiliaeth. Beth yw hynny os nad bod yn hiliol?
“Dyma’r tro cyntaf ers Huw Edwards iddyn nhw glywed acen Gymreig.”
‘Newid’
Mae’r gyfres ddogfen yn dilyn pedwar cyflwynydd sydd, yn eu tro yn holi o ble mae’r iaith wedi dod, beth yw ei sefyllfa heddiw a beth fydd ei dyfodol.
Mae teulu Alex ei hun yn adlewyrchu’r norm ieithyddol i nifer yng Nghymru – dwyieithrwydd, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn gymysg i gyd.
“Pan gwrddodd mam a dad, o’n nhw’n siarad Saesneg â’i gilydd yn naturiol er bod y ddau ohonyn nhw’n gallu siarad Cymraeg – mam o ochrau Brynaman a dad o Lanelli” meddai Alex.
“O’dd dim gair o Gymraeg ‘da fi pan es i i’r ysgol, ond wedodd y Prifathro ‘fydd hi’n iawn, o fewn chwe wythnos fydd hi’n rhygl y Gymraeg'. Es i fewn yn bedair oed ac mewn chwe wythnos o’n i’n gallu siarad Cymraeg yn iawn.”
'Cefnogol'
A hithau’n byw yn Llundain ac yn fam i dri o blant bach, mae Alex yn benderfynol o feithrin Cymreictod yn ei phlant, a bod yr iaith Gymraeg yn ran naturiol o’r aelwyd.
“O’dd dim cwestiwn pan ges i’r plant taw Cymraeg fydden i’n siarad ‘da nhw,” meddai.
“Wedi dweud hynny, achos bod Charlie ‘ngŵr i’n siarad Saesneg, pan y’n ni gyd gyda’n gilydd, Saesneg yw’r iaith, ond wedyn fi dal yn siarad Cymraeg.
“Mae Charlie’n gefnogol iawn o hynny, a ma fe’n darllen storis Cymraeg ‘da Ted cyn mynd i’r gwely, ond ma’ fe’n gwbod yn y bôn bo’ fi’n teimlo bod ishe lot fwy o ymdrech er mwyn rhoi unrhyw fath o sylfaen Cymraeg i’r bois os y’n ni’n aros fan hyn am y blynyddoedd nesaf.”
Bydd Stori’r Iaith ar S4C am 9pm ar 22 Chwefror.