Rishi Sunak yn galw am gefnogaeth hir dymor i Wcráin

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi galw ar arweinwyr gwledydd ar draws y byd i ddarparu cefnogaeth hir dymor i Wcráin yn y rhyfel yn erbyn Rwsia.
Mewn uwch-gynhadledd diogelwch yn Munich dywedodd Mr Sunak y byddai’r DU yn cefnogi gwledydd eraill sy’n gallu darparu awyrennau “ar unwaith" i Wcráin.
Dywedodd: "I bawb sy’n dweud ry' ni am i Wcráin i ennill ac mae'n rhaid i Rwsia fethu, os ydych chi'n credu hynny, yna mae’n rhaid i chi weithredu nawr."
Yn ôl adroddiadau mae Wcráin wedi gwrthsefyll tua 20 o ymosodiadau gan luoedd Rwsia ar y rheng flaen gan gynnwys dinas y mae Vladimir Putin yn eiddgar i'w chipio.
Yn gynharach dywedodd is-arlywydd yr UDA Kamala Harris fod yr UDA wedi “penderfynu’n ffurfiol” fod Rwsia wedi bod yn euog o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth yn Wcráin.
Mae Rwsia yn gyson wedi gwadu unrhyw honiadau o’r fath.