Newyddion S4C

Cip olwg ar gemau'r JD Cymru Premier dros y penwythnos

Sgorio 17/02/2023
jd cymru premier / CBD Cymru

Mae’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy ac mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.

CHWECH UCHAF

Pen-y-bont (4ydd) v Met Caerdydd (3ydd) | Nos Wener – 19:45

Mae pedwar tocyn i Ewrop ar gael eleni, a bydd rheiny’n cael eu dosbarthu i’r ddau glwb uchaf yn y tabl, enillwyr Cwpan Cymru ac enillwyr y gemau ail gyfle.

Pe bae un o’r ddau uchaf yn ennill Cwpan Cymru, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn derbyn pas i Ewrop, ond gorffen yn 2il fydd y nod i’r ddau glwb yma er mwyn sicrhau eu lle yn yr het Ewropeaidd.

Dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r pedwar clwb rhwng yr 2il a’r 5ed safle, felly mae’r naw gêm olaf yn mynd i fod yn rhai hynod gystadleuol yn y Chwech Uchaf y tymor hwn.

O holl glybiau’r Chwech Uchaf, Pen-y-bont yw’r unig rai sydd erioed wedi chwarae’n Ewrop o’r blaen, ac mae tîm Rhys Griffiths yn llawn hyder ar ôl rhediad o wyth gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth gan ildio dim ond dwy gôl.

Yn wir, dyw Pen-y-bont heb golli ers ymweliad diwethaf y myfyrwyr â Stadiwm Gwydr SDM ar ddydd San Steffan (Pen 1-3 Met).

Ac mae cyfnod di-guro Met Caerdydd yn ymestyn yn ôl i fis Tachwedd gyda bechgyn y brifddinas ar rediad rhagorol o 10 gêm gynghrair heb golli (ennill 8, cyfartal 2), yn cynnwys eu buddugoliaeth gampus yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn ddiwethaf.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ➖✅✅✅✅
Met Caerdydd: ✅✅✅➖✅ 

Cei Connah (2il) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd Cei Connah yn benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl i’r Bala yn dilyn y golled ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG fis diwethaf.

Daeth y golled honno a chyfnod anhygoel Cei Connah o 21 gêm heb golli i ben, a dyw’r hwyliau ddim cweit cystal yng Nglannau Dyfrdwy erbyn hyn gyda’r Nomadiaid heb ennill mewn pum gêm gynghrair.

Hanner ffordd drwy’r tymor, wedi 16 gêm, roedd Cei Connah saith bwynt yn glir o’r Bala yn y 3ydd safle, ond bellach, ar ôl ennill dim ond unwaith mewn saith gêm gynghrair, pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Nomadiaid â’r tîm sy’n 3ydd, ac mae perygl i dymor addawol droi mewn i dymor siomedig.

Er y llwyddiant yn y cwpannau, dyw pethau heb fod cystal i’r Bala yn y gynghrair chwaith gyda criw Colin Caton ond wedi ennill unwaith mewn pum gêm ac heb sgorio mewn tair.

Ac er curo Cei Connah ar giciau o’r smotyn fis diwethaf, di-sgôr oedd hi wedi 90 munud sy’n golygu bod y Nomadiaid ond wedi ildio un gôl yn eu pum gêm flaenorol yn erbyn Y Bala.

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖❌➖➖➖
Y Bala: ➖❌➖✅❌ 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau’n parhau i fod 15 pwynt yn glir ar y copa er i’r pencampwyr ddioddef eu colled gyntaf yn y gynghrair ddydd Sadwrn diwethaf (Met 3-2 YSN), ac hynny ar ôl bod 0-2 ar y blaen wedi 12 munud yn erbyn Met Caerdydd.

Honno oedd colled gyntaf Y Seintiau Newydd yn y gynghrair ers colli yn erbyn Y Drenewydd ym mis Mawrth 2022 (YSN 0-1 Dre), a’r tro cyntaf i’r clwb golli ar ôl bod ddwy gôl ar y blaen ers Rhagfyr 2017, ac honno eto yn erbyn Y Drenewydd (YSN 2-4 Dre).

A bydd Chris Hughes yn gobeithio am ganlyniad cadarnhaol arall i’r Drenewydd er mwyn cau’r bwlch o 10 pwynt sydd rhyngddyn nhw a’r 3ydd safle, os am geisio cystadlu am docyn awtomatig i Ewrop.

Ond dyw’r Robiniaid heb ennill mewn pedair gêm ym mhob cystadleuaeth, yn cynnwys eu colled drom o 7-0 yn Neuadd y Parc fis diwethaf ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅✅
Y Drenewydd: ➖❌➖✅✅

CHWECH ISAF

Airbus UK (12fed) v Caernarfon (7fed) | Nos Wener – 19:45

Gyda naw gêm yn weddill a 25 pwynt yn gwahanu Airbus a diogelwch y 10fed safle byddai colled neu gêm gyfartal nos Wener yn golygu bod y clwb yn sicr o orffen yn safleoedd y cwymp.

Ers ffurfio’r 12 Disglair does neb erioed wedi syrthio o’r uwch gynghrair mor gynnar â mis Chwefror, ond mae’n bur debygol mae dyna yw tynged Airbus.

Ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau eleni ar ôl colli 22 o’u 23 gêm gynghrair ac mewn perygl o dorri’r record fel y clwb gwaethaf erioed yn hanes y gynghrair.

Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond bydd y Cofis yn benderfynol o ddal gafael ar y 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gystadlu am docyn i Ewrop ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Caneris wedi ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Airbus, ac felly bydd Huw Griffiths yn gobeithio y gall y Cofis yrru bechgyn Brychdyn i’r ail haen nos Wener.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌

Caernarfon: ❌❌ 

Aberystwyth (11eg) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C arlein)

Gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau glwb yma mae hon am fod yn gêm dyngedfennol yn y frwydr i osgoi’r cwymp eleni.

Pe bae Aberystwyth yn colli ddydd Sadwrn yna bydd y Gwyrdd a’r Duon bedwar pwynt y tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle ac mewn perygl gwirioneddol o syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r tîm o Geredigion i’r ail haen.

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, ac ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf mae angen gwella’r perfformiadau’n sydyn os am droi’r gornel a dringo o safleoedd y cwymp.

Does gan Pontypridd ddim record wych oddi cartref ers eu dyrchafiad yn yr haf, gan ennill dim ond un o’u 11 gêm oddi cartref yn y gynghrair, ac honno yn erbyn Airbus ym mis Hydref.

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅❌➖❌

Pontypridd: ✅❌✅➖ 

Hwlffordd (9fed) v Y Fflint (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Hwlffordd a’r Fflint yn dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau, dim ond un pwynt y tu ôl i Gaernarfon yn y ras am y 7fed safle.

Mae Hwlffordd wedi bod yn gadarn yn eu gemau cartref ac heb golli ar Ddôl y Bont ers mis Hydref gan guro Pen-y-bont a Chei Connah ers hynny.

Hon fydd gêm gyntaf Y Fflint oddi cartref ers mis Rhagfyr, ac mae’r Sidanwyr wedi bod ar dân yn ddiweddar gan sgorio naw gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf.

Ond yr Adar Gleision gafodd y gorau o’r gornestau yn erbyn Y Fflint yn rhan gynta’r tymor gan ennill 0-1 ar Gae-y-Castell wedi eu gêm gyfartal 1-1 ar Ddôl y Bont ym mis Medi.

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd:✅❌➖

Y Fflint: ✅✅➖➖
 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.

 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.