Dyn o Wynedd yn dewis byw mewn fan wedi cyfnod heriol
Dyn o Wynedd yn dewis byw mewn fan wedi cyfnod heriol

Dair blynedd yn ôl, fe benderfynodd Paul O’Neill droi ei fan waith yn gartref iddo’i hun - penderfyniad a oedd yn drobwynt yn dilyn cyfnod tywyll a chythryblus yn ei fywyd.
Yn y rhaglen ddogfen DRYCH: Dyn yn y Van, bydd gwylwyr yn cael blas ar fywyd anghyffredin Paul wrth iddo deithio, gweithio a byw yn harddwch Eifionydd a Phen Llŷn.
“Faint o bobl sy’n gallu gorffen gwaith a galw hyn yn adra?” meddai Paul ar y rhaglen, gan gyfeirio at y golygfeydd o’i gwmpas.
Heriau iechyd meddwl
Wrth weithio fel saer a handyman, mae Paul yn teithio o le i le ar gyfer ei waith. Gan nad yw’n cynllunio, tydi o ddim yn penderfynu ble mae’n mynd nesaf tan mae’n amser i symud ymlaen a thanio modur y fan.
Er y ffordd o fyw gymharol syml, mae’n dweud bod y penderfyniad i fyw yn y fan yn ymateb i ddelio gyda sgil effeithiau heriau iechyd meddwl yn ddyddiol.
Mae wedi byw gyda dyslecsia ers yn blentyn ac wedi delio gyda dibyniaeth ar alcohol pan yn oedolyn. Yn y rhaglen, mae’n siarad yn agord am gyrraedd “rock bottom”.
“Maen nhw’n dweud fod depression fel cylch,” meddai. “A mwy isel dwi’n mynd, ar ôl dipyn, dwi’n eistedd yn y fan a gwneud dim. Dim digon o confidence i fynd i siop lawr lôn jyst i nôl peint o lefrith.
“Na’i eistedd yna am ddau ddiwrnod heb fwyd na llefrith achos dwi’n rhy anxious ac isel i gerdded mewn i siop. That’s depression. Ac mae’n medru dod allan o nunlle.”
‘Ffordd impulsive o fyw’
Er mwyn cael gwir deimlad o fywyd Paul, fe dreuliodd y gwneuthurwr ffilm, Eilir Pierce, amser yn ei gysgodi. Yn fuan iawn, mae Eilir yn darganfod rhai o reolau bywyd y mae Paul wedi ei greu iddo’i hun; dim cynllunio, dim alcohol a pheidio dibynnu ar neb arall.
“Tra’n gwneud y ffilm, nes i heirio camper van er mwyn trio dallt mwy am Paul a bywyd mewn van,” meddai Eilir.
“Mae Paul wedi arfer bod ar ben ei hun, so o ni’n gorfod bod yn ofalus o beidio amharu ar ei ffordd impulsive o fyw. Mae’n brofiad anodd iddo fo ac i fi.”
Mae Paul yn ymwybodol fod elfen o risg ynghlwm â gwneud y ffilm: “Gall hyn chwalu’r byd dwi wedi adeiladu yn hawdd. Mae’n tynnu’r spontaneity allan o bywyd fi.”
Bydd DRYCH: Dyn yn y Van yn cael ei dangos ar S4C am 21.00 ar nos Sul, 19 Chwefror.