Newyddion S4C

Michael Sheen, llun gan y BBC

Michael Sheen am gyfarwyddo drama deledu newydd ym Mhort Talbot

NS4C 17/02/2023

Bydd Michael Sheen yn cyfarwyddo drama deledu newydd ar gyfer y BBC wedi ei lleoli ym Mhort Talbot. 

Bydd drama 'The Way' yn canolbwyntio ar wrthryfel sifil ffuglennol, a bydd ffilmio yn digwydd ym Mhort Talbot, sef tref enedigol Sheen, a'r ardaloedd cyfagos.

Mae disgwyl i ffilmio ddechrau yn ddiweddarach eleni a bydd y ddrama yn cael ei darlledu ar BBC One a BBC iPlayer. 

Mae disgwyl i'r ddrama "gyffwrdd ar anhrefn gwleidyddol a chymdeithasol yr oes sydd ohoni drwy ddychmygu gwrthryfel sifil sydd yn dechrau mewn tref fach ddiwyddianol".

Y prif gymeriadau fydd teulu'r Driscolls, sydd yn deulu arferol ond gyda "stori ryfeddol am fywyd, marwolaeth a cheisio goroesi".

Mae'r ddrama wedi ei hysgrifennu gan James Graham, a bydd yn cael ei chynhyrchu gan gwmni o Gymru o'r enw Red Seam, a gafodd ei greu gan Michael Sheen a Bethan Jones, mewn partneriaeth â Little Door Productions.  

Llun: Michael Sheen, llun gan y BBC

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.