Newyddion S4C

Jack Carne

Teyrnged i ddyn fu farw ar ôl syrthio yn Eryri

NS4C 17/02/2023

Mae tad dyn a fu farw wedi iddo syrthio ar un o fynyddoedd y Glyderau yn Eryri wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Jake Carne o Sir Efrog wrth geisio dringo'r Gribin yn Eryri tua 5pm ar 4 Chwefror.

Roedd y dyn yn dringo'r mynydd 3,200 troedfedd o uchder gyda dau berson arall pan syrthiodd 600 troedfedd oddi ar glogwyn. 

Cafodd gwasanaethau achub mynydd, Heddlu'r Gogledd a hofrennydd eu galw, ond fe fu farw cyn iddyn nhw allu symud ei gorff.

Dywedodd ei dad, Richard bod ei fab yn "ddyn anhygoel ymhob ffordd."

"Dwi methu egluro faint dwi'n ei garu a pha mor falch ydw i ohono," meddai.

"Fe oedd fy arwr ac fe fydda i'n ei golli mwy na alla i egluro.

"Mae wedi bod yn bleser bod yn dad iddo. Dwi wir eisiau meddwl am eiriau i wneud cyfiawnhad ag o, ond dwi methu."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.