Plastig i'w ailgylchu o'r DU yn cael ei losgi yn Nhwrci

Plastig
Twrci yw'r lleoliad diweddaraf i dderbyn gwastraff plastig o'r Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwiliad gan Greenpeace.
Mae dros hanner y plastig mae Llywodraeth y DU yn honni iddo gael ei ailgylchu yn cael ei anfon dramor, adrodda The Guardian.
Roedd Tsieina'n arfer bod yn lleoliad allweddol ond ers iddyn nhw atal mewnforio sawl math o blastig yn 2017, mae Twrci wedi datblygu i fod yn brif dderbynnydd gwastraff plastig Prydain.
Ond, yn hytrach na chael ei ailgylchu, darganfu ymchwiliad Greenpeace blastig o rai archfarchnadoedd blaenllaw yn cael ei ddympio a'i losgi.
Darllenwch y stori'n llawn yma.