Newyddion S4C

UGC: Aeron Edwards yn ennill 10fed pencampwriaeth

Sgorio 16/05/2021

UGC: Aeron Edwards yn ennill 10fed pencampwriaeth

Mewn prynhawn dramatig ar ddiwrnod olaf y tymor, lle'r oedd cyfle i Gei Connah neu’r Seintiau Newydd ennill y gynghrair, llwyddodd tîm Andy Morrison i guro Pen-y-bont 0-2 ac ennill cynghrair y Cymru Premier am yr ail dymor yn olynol.

Sgoriodd George Horan o fewn y pum munud cyntaf cyn i Aeron Edwards selio’r fuddugoliaeth gyda pheniad wedi 75 munud o’r chwarae.

Fe enillodd Aeron Edwards ei 10fed pencampwriaeth, y cyntaf yn hanes y gynghrair i ennill mwy na naw.

"Dwi'n teimlo'n wych, dyma be 'da ni'n gweithio am trwy'r tymor. Ma' pawb 'di troi fyny heddiw a ni mor hapus i ennill," meddai Edwards ar ôl y gêm.

"Ma'n wych, oedd 'na lot o cwestiynau o fi'n symud i'r tîm nesa, ond dwi'n meddwl dwi 'di ateb nhw heddiw."

Image
Llun: Sgorio

Enillodd Chris Venables o Glwb Pêl-droed Y Bala Esgid Aur y Gynghrair am yr ail dymor yn olynol, ar ôl sgorio 24 o goliau drwy'r tymor.

Ar ddiwedd y tymor, Cei Connah oedd ar frig y tabl, gyda'r Seintiau Newydd yn ail a'r Bala yn y trydydd safle.

Image
Tabl Uwch Gynghrair Cymru

Bydd y pencampwyr nawr yn troi ei sylw at Gynghrair y Pencampwyr dros yr haf, gyda’r enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer gemau rhagbrofol y gystadleuaeth ar yr 8fed o Fehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.